Tina Carr & Annemarie Schöne
- Oriel Isaf
Colli a Chanfod
Dyddllun 4 Gorffennaf - Dyddmercher 27 Gorffennaf 200
Datganiad Personol
Colli a Chanfod
Rydym yn gweithio ar y cyd. Cydlyniad, angerdd ac atebolrwydd personol
yw’r daliadau sy’n hanfod i’n gwaith.
Mae ffotograffiaeth i ni yn gyfosodiad rhwng y ffotograffydd a thybiaethau
sy’n deillio o weld yn fras a gweld yn gyson. Byddwn yn ceisio
mynd y tu hwnt i gywirdeb ffotograffig arwynebol, naturoliaeth arwyneb,
er mwyn cyrraedd y fan honno lle mae ysbryd y llun yn mynd yn ôl-syllol,
myfyriol, ac nid yn gymaint dogfen ond yn dalismon neu grair.
Mae’r casgliad hwn, ‘Colli a Chanfod, Oriau Tra Ffrwythlon
Tina ac Annemarie’ yn gyfres o ffotograffau bywyd llonydd
dogfennol sy’n darlunio golygfeydd gwledig yng Ngorllewin
Cymru yn ystod y cyfnod o drawsnewid rhwng y ffordd amaethyddol
amlwg o fyw a’r hyn sy’n dod yn ei lle. Gwelir y traddodiadol
a’r gwerthoedd cysylltiedig yn cael eu herydu fwy fwy. Mae
ffactorau economaidd, cyfarwyddyd y llywodraeth a cholli cymorthdaliadau
yn gorfodi’r ffermwyr, a fu unwaith yn geidwaid y tir, i arallgyfeirio
neu adael y tir yn gyfan gwbl. A hwythau wedi’u hamddifadu
o ofal a chonsyrn, daw cymunedau a Natur ei hun i brofi’r
tyndra a’r straen sy’n deillio o’r newidiadau
dramatig sy’n digwydd.
Mae’r delweddau hyn yn galw i gof ddelweddau defosiynol manwl
a thrylwyr y goliwiadau sydd i’w gweld yn y ‘Books of
Hours’, ac yn arbennig y rhai hynny sy’n ymddangos yn
y cyfnod hwnnw yn Hanes Celfyddyd lle gwelir artistiaid yn dechrau
lluniadu’n uniongyrchol o fyd Natur. Ystyrir fod y cyfwng
hwn yn cynrychioli diwedd y cyfnod Canoloesol a dechrau’r
Dadeni - enghraifft arall o drawsnewid dramatig iawn. Yn yr un modd
ag roedd artistiaid y cyfnod hwn yn archwilio deddfau golwg yn y
byd o’u cwmpas, felly hefyd rydym ninnau, gyda’r un
dwyster, yn archwilio’r byd ffisegol o’n cwmpas.
Rydym yn edrych yn ddyfnach nag a wnaethom erioed ar ein hamgylchoedd
beunyddiol, ar ddarganfyddiadau neilltuol a mannau cyfarwydd, a
hynny gyda llygaid newydd.
Hefyd
yn arddangos yn Mwldan Uchaf- Kevan Coulton - Pobl, Lleoedd a Phethau
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|