oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Simon Whitehead - Ymhellach ...


Simon Whitehead

Ymhellach …

Dydd Sadwrn 2 Chwefror – Dydd Sadwrn 1 Mawrth 2008

Arddangosfa o weithiau fideo byr gan Simon Whitehead, Artist Symudiadau sy’n byw yn Sir Benfro

Cafodd y ffilmiau hyn eu gwneud yn ystod y 5 mlynedd a aeth heibio ac maent yn cynrychioli cyfres o deithiau fel perfformiad, gyda phob un ohonynt yn sensitif i amgylchiadau lle, y corff a goleuni.

“Yn dilyn cyfnod yn astudio ac yn gweithio fel dawnsiwr proffesiynol yn Llundain ac Efrog Newydd, dychwelodd i Gymru ym 1994. Ar ôl symud i sefyllfa wledig anghyfarwydd, dechreuodd Whitehead ddatblygu gwaith perfformio sydd ag ôl dylanwad tirwedd Cymru yn drwm arno… Yn aml, seilir ei berfformiadau, a nodweddir gan rhyw harddwch minimalaidd, manwl gywir, ar arferion pedestriaid, sef cerdded a mapio. Mae Whitehead, yn gynyddol felly, yn llwyfannu ei berfformiadau yn uniongyrchol yn y tirweddau gwledig (a threfol o bryd i’w gilydd) sy’n rhoi bod iddynt. Daw wyneb yn wyneb ag amgylchiadau ar gyflymdra cerdded ac mae ei waith yn sensitif i’r mannau hynny lle maent yn digwydd ac yn adlewrychu pryder ecolegol am gyd-ddibyniaeth y corff a’r amgylchedd. Mae’r gwaith yn gofyn cwestiynau cymwys: sut y gallwn ni ddod o hyd i ddulliau newydd o weithredu yn, ac mewn ymateb i, amgylchfyd naturiol, dulliau sy’n wahanol i arferion traddodiadol fel uchafiaeth ac ymelwa? Sut y gellir gwneud profiad tirwedd yn rhywbeth ystyrlon i gynulleidfa drefol? A sut y gall perfformiad cyfoes, dull sy’n siarad yn bennaf am foneddigeiddrwydd, adlewyrchu ein bywydau ni heddiw, lle mae cyswllt mor agos yn bod rhwng hunaniaeth yn anad dim a’i dirweddau gwledig?”

Heike Roms, New Welsh Review

Mae Simon yn gweithio’n lleol ac yn rhyngwladol. Mae’n gyd-sylfaenydd Ointment, grŵp teithiol lleol o artistiaid rhyngddisgyblaethol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac sy’n creu eu gwaith mewn ymateb i newid gwledig ac amgylcheddol.

Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau dau brosiect a ariannwyd gan Wobr Cymru Greadigol. Cyfres o deithiau gyda’r nos yw Walks to Illuminate, ac mae Simon wedi creu darnau cerfluniol ysgafn sy’n cael eu gyrru gan olau’r haul ac sy’n cael eu gwisgo am draed y cerddwr; mae’r detholiad llyfr Walking to Work yn cofnodi ei arfer dros y 12 mlynedd a aeth heibio, gan ddefnyddio dyfyniadau o’i archif ffotograffig, ei ysgrifeniadau a’i nodiadur er mwyn rhoi mewnwelediad i’w broses greadigol.
Os hoffech brynu copi o Walking to Work, mynnwch air gydag aelod o staff Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan, os gwelwch yn dda

Mae Simon, ar hyn o bryd, yn gweithio ar waith Rhyngwladol ar y cyd gyda’r artist sain, Barnaby Oliver, rhwng ei gartref yn Abercych a man gweithio Barnaby ym Melbourne. Bydd PINGS yn cael ei gyflwyno’n fyw ac ar-lein yn ystod Gwanwyn 2008.

Cysylltau gwe Simon Whitehead: - www.untitledstates.net

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|