oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Ben Mason & Sean Vicary 'Bom, hwyaid'

Ben Mason & Sean Vicary

Bom, hwyaid
RHYBUDD: Gall Gynnwys Cnau
Dyddllun 4 Ebrill- Dyddiau 28 Ebrill 2005

Sean Vicary
Datganiad Personol

Myfyriwr Celfyddyd Gain oedd Sean Vicary yn wreiddiol, yn hyfforddi i fod yn baentiwr tirluniau, ond câi ei ddenu fwyfwy gan y posibiliadau o weithio yn y cyfryngau amserlin.

Mae ei waith yn parhau i ymdrin â byd natur a’n safle ni yn y byd hwnnw. Bydd yn defnyddio gwrthrychau hapgael a thameidiau o falurion er mwyn archwilio’r berthynas hon, gan osod yr elfennau hyn at ei gilydd mewn gofod rhithwir er mwyn creu gludwaith bywiog.

Cynhyrchodd nifer o ffilmiau byrion gafodd eu harddangos mewn amryfal wyliau ledled y DU, a bydd ei waith diweddaraf – “TOLL” – sy’n rhan o fenter “Animate It!” ar gyfer S4C a Sgrîn, yn cael ei ddarlledu’n ddiweddarach eleni.

Mae Sean yn gweithio gyda Creative Mwldan Creadigidol, Aberteifi, ar hyn o bryd.

Ben Mason
Datganiad Personol
Mae gwaith Ben Mason, artist fideo a cherddor o ran galwedigaeth, yn archwilio’r berthynas synesthetig rhwng sain a delwedd.
Ar ôl cwblhau cwrs ôl-radd mewn delweddu electronig, treuliodd Ben Mason dair blynedd yn gweithio fel artist gosod fideo gan arddangos gwaith mewn gwyliau ffilm ac orielau ar draws Ewrop a’r DU.

Fel cerddor, mae wedi cynhyrchu seinluniau ar gyfer gosodiadau fideo, ffilmiau byrion a pherfformiadau byw, ac yn eu plith ‘Blabber’ a ‘Chemical Wedding’ gan Blast Theory, a ddangoswyd yn yr ICA yn Llundain. Dechreuodd Ben ei waith fel video jockey dan yr enw Red Dog ym 1997 gan ei fod yn awyddus i adael yr oriel ac estyn allan i gynulleidfa ehangach. Fel y VJ Red Dog, bu’n arddangos ei waith mewn gwyliau a chyngherddau ar draws pum cyfandir.

Mae Ben Mason wedi creu darluniadaeth ac wedi gosod amgylcheddau taflunio arloesol ar gyfer clybiau a throellwyr mwyaf blaenllaw’r DU yn ogystal â gwyliau cerdd, teithiau, perfformiadau cyntaf bandiau a nosweithiau arddangos ffilmiau newydd.

Derbyniodd gomisiwn i greu dilyniannau agoriadol ar gyfer Sianel 4, BBC2, ITV, LWT a’r Sianel ‘Discovery’. Cynhyrchodd ddarn clywedol/gweledol ar gyfer y gyfres ‘Mixmasters’ Addictive TV, ac mae’n destun rhaglen ddogfen o’r enw ‘Short Attention Span Cinema’ ar gyfer Film Four.


Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|