Ruth Jones
Cysgwyr
Dydd Sadwrn 3 Mawrth - Dydd Sadwrn 15 Ebrill 2007
Cysgwyr
Dechreuwyd ffilmio ar gyfer y prosiect ‘cysgwyr’ ar 8fed Ebrill yng nghoed Tŷ-canol, ger Trefdraeth. Ymatebodd tua saith deg o bobl i’m gwahoddiad i ddod yn ‘freuddwydiwr comunol’ ac i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ffilm fer. Yn ffodus, roedd y tywydd yn ffafriol, a daeth pawb ynghyd i Neuadd Brynberian, ac oddi yno cerddasom i lawr i’r goedwig, ac aeth pawb i chwilio am lecyn gorffwys iddo’i hun. Roedd yr haul yn tywynnu drwy’r coed ac wrth i’r cysgwyr hepian, tynnwyd ffilm a ffotograffau ohonynt. Wedyn, aeth pawb ohonom yn Ùl i neuadd y pentref am ychydig luniaeth ysgafn, cerddoriaeth a dawnsio.
Ers peth amser, mae fy ngwaith wedi bod yn archwilio cyflyrau ‘trothwy’ neu gyflyrau rhwng cwsg ac effro a allai fod yn drawsnewidiol; cysgu a breuddwydio yw’r enghreifftiau pennaf o hyn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod am hanesion ‘Sleeping Beauty’ ac Eira Wen (Snow White), lle mae merch sy’n cysgu yn cael ei deffro gan ei thywysog golygus. Rhamantau o’r Canol Oesoedd yw’r straeon hyn ac maent yn canolbwyntio ar thema cariad delfrydol, ond mae ei gwreiddiau i’w cael mewn llÍn gwerin gynharach o lawer lle mae’r cysgwr, a all fod yn ferch neu’n fachgen, yn berson sy’n ymgorffori’r tir ac yn gweithredu fel amddiffynnydd neu warcheidwad y tir hwnnw. Mae coedwig Tŷ-canol yn lle unigryw – fforest hynafol sawl mil o flynyddoedd oed yw hon – a bydd unrhyw un sydd wedi ymweld ‚’r lle yn cytuno, mae’n siŵr, fod rhyw naws hudol yn perthyn i’r fangre. Mae bod yn gysgwr yn y goedwig nid yn unig yn ffordd o gysylltu ‚ byd breuddwydion a thrawsnewidiadau, ond mae hefyd yn peri i ni gydnabod ein cyfrifoldeb personol i warchod y tir rhag difrod amgylcheddol.
Caiff y ffilm ‘cysgwyr/sleepers’ ei dangos ar y cyd gyda rhai o’r ffotograffau llonydd a dynnwyd gan Philip Clarke fel rhan o arddangosfa unigol Ruth yn Oriel Mwldan ym mis Mawrth 2007.
Cydnabyddiaeth ar gyfer y ffotograff:
(Ffotograff gan Philip Clarke)

Dilynwch yr A487 tuag at Aberteifi am ychydig dros filltir. Trowch
i’r dde lle gwelwch yr arwydd treftadaeth brown am Siambr
Gladdu Pentre’ Ifan. Dilynwch y ffordd hon am 2 filltir
gan fynd dros groesffordd ac yna cymerwch y ffordd nesaf ar y
dde sy’n pwyntio i gyfeiriad y Siambr Gladdu. Dilynwch yr
arwyddion am y Siambr Gladdu/ Brynberian. Byddwch yn mynd heibio
i Bentre’ Ifan ar y dde. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon
am filltir arall. Neuadd Brynberian yw’r adeilad pinc ar
y dde ar groesffordd. Mae yma ddigon o le i barcio ceir.