|
Rebecca Jane Rotie
Safleoedd Neolithig yng Ngogledd Sir Benfro
Tony Kitchell
Arluniau
12 July 2004 – 5 August 2004
Dyma’r tro cyntaf i gynulleidfaoedd gael y cyfle i weld dwy
arddangosfa sy’n cydredeg yn Oriel Mwldan. Yr un ysbrydoliaeth,
sef delweddau ac amwysedd tirwedd Sir Benfro, a roddodd fod i’r
arddangosfa o baentiadau newydd gan Tony Kitchell yn ogystal â
ffotograffau Rebecca Jane Rotie.
Rebecca Jane Rotie
Datganiad Personol
Gan fy mod wedi byw yn neu’n agos i Sir Benfro drwy gydol
f’oes, mae’r dirwedd rymus hon wedi ennyn fy niddordeb
a’m hysbrydoli o’r cychwyn. Rhan fechan o gasgliad mwy
o safleoedd penodol sydd o gryn ddiddordeb hanesyddol, ac yn eu
plith Siambrau Claddu, Meini Hirion a Chylchoedd Cerrig o’r
cyfnod Neolithig, yw’r corff o weithiau ffotograffig a ddewiswyd
ar gyfer yr arddangosfa hon. Nod fy arddangosfa yw cymell eraill
i archwilio a phrofi awyrgylch y safleoedd cysegredig hyn.
Tony Kitchell
Datganiad Personolt
Mae’r arddangosfa hon wedi rhoi’r cyfle i fi wireddu
prosiect a fu ar fy meddwl ers nifer o flynyddoedd. Y nod yw llanw’r
safle arddangos newydd yn Theatr y Mwldan gyda myrddiwn o liwiau.
Ysbrydolwyd hyn oll gan y doreth o flodau gwyllt y gwanwyn sy’n
tyfu ar hyd llwybr yr arfordir yn sir Benfro. Wrth fynd ati i gynhyrchu’r
lluniau hyn, byddaf yn gwneud astudiaethau bach mewn olew o fyd
natur ac yna’n chwyddo rhai agweddau hyd nes eu bod yn haniaethol
bron.
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|