oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
polisi y celfyddydau gweledol

mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery
Sarah Davies Painting mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery HOMELANDS mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery Area 43 Art from the Community mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery Anna Bjerger | Angels in my Beer mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery Tony Kitchell

Dylid ystyried y polisi hwn yng nghyd-destun ehangach
Polisi Rhaglennu Theatr Mwldan

Cyflwyniad

Mae Theatr y Mwldan yn ganolfan i’r celfyddydau ac adloniant ac mae o bwys mawr strategol yng Nghymru. Mae gweithgareddau’r Theatr yn adlewyrchu natur gymhleth y Gymru newydd, amlochrog, yng nghyd-destun y byd ehangach, tra’i bod yn cydnabod yr amrywioldeb sydd i’w weld yn y gymuned mae’n ei gwasanaethu yn ogystal â diwylliant a threftadaeth ieithyddol y genedl. Mae Theatr y Mwldan yn dathlu ei hunaniaeth Gymreig sydd wedi ei gwreiddio yn yr etifeddiaeth honno, ond mae hefyd yn estyn allan at genedl amrywiol, agored sy’n edrych y tu hwnt iddi ei hun.

Rhaid i Bolisi Theatr Mwldan ar Y Celfyddydau Gweledol adlewyrchu’r hunaniaeth hon ac mae’n atgyfnerthu set o gredoau a werthoedd sylfaenol, cyffredinol megis cynwysoldeb, goddefiad, rhyddid a mynegiant, cyfleoedd cyfartal ac amrywioldeb diwylliannol. Rhennir y credoau hyn gan y Bwrdd a staff Theatr y Mwldan ac maent yn tanlinellu hunaniaeth sylfaenol Oriel Mwldan.

Mae gweithgareddau’r celfyddydau gweledol yn Theatr y Mwldan yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng yr oriel newydd, Oriel Mwldan, sydd wedi ei chodi fel rhan o Gynllun Datblygu Theatr y Mwldan.

Prif amcanion y polisi yw:

• Cydnabod pwysigrwydd y celfyddydau gweledol a chrefftau yn rhaglen gyffredinol Theatr y Mwldan.

• Datblygu hunaniaeth glir ar gyfer gweithgareddau’r celfyddydau gweledol a chyflwyno arddangosfeydd o safon uchel er mwyn sicrhau enw da am ragoriaeth.

• Cyflwyno arddangosfeydd teithiol sydd o bwys yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o fewn i’r cyfyngiadau sy’n bodoli.

• Darparu cyfleoedd arddangos i artistiaid, gwneuthurwyr a ffotograffwyr lleol -proffesiynol ac amatur fel ei gilydd - gan gynnwys y rheiny sydd ar ddechrau eu gyrfa.

• Annog y nifer fwyaf posibl o blith y cyhoedd i fynychu arddangosfeydd gan geisio darparu’r cyfle hwn yn rhad ac am ddim.

• Darparu cyfleoedd addysgol yng nghyd-destun y celfyddydau gweledol, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl, mewn cydweithrediad ag ysgolion lleol, colegau, artistiaid ac aelodau’r cyhoedd o safbwynt darparu cyflwyniadau, arddangosfeydd, gweithdai a chyrsiau preswyl, lle bo hynny’n addas.

• Dathlu amrywioldeb diwylliannol cyfoethog Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.

• Cychwyn a chynhyrchu arddangosfeydd, gwaith a phrosiectau i’w harddangos yn Oriel Mwldan a’u cludo ar daith i leoliadau eraill.
•Cydnabod y cysylltiadau rhwng y celfyddydau gweledol a ffurfiau celfyddydol eraill sy’n cael eu cyflwyno yn Theatr y Mwldan.

• Datblygu a gwireddu cyfleoedd creadigol i ddatblygu’r celfyddydau gweledol sy’n cael eu cynnig drwy’r berthynas weithio glos y’n bodoli rhwng Theatr y Mwldan a Mwldan Creadigol.

• Cysylltu arddangosfeydd gyda digwyddiadau a gwyliau lleol a chenedlaethol fel ei gilydd.

• Marchnata a rhoi cyhoeddusrwydd i holl arddangosfeydd a gweithgareddau Oriel Mwldan i gynulleidfa mor eang â phosib.

• Datblygu ymhellach y dasg o farchnata’r celfyddydau gweledol yn Theatr y Mwldan ac i wneud y gorau posibl o botensial Oriel y Mwldan i werthu ac i wneud arian.

• Dod o hyd i nawdd addas er mwyn sicrhau gwireddu amcanion y polisi.


Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones



|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|