Rwy’n troi’n gyson at y dirwedd a’r byd naturiol am liw, siapau, patrymau, marciau, llinellau a chydberthynas. Byddaf yn cael fy synnu’n barhaus gan yr amwysterau rwy’n eu gweld yn y dirwedd. Yn aml, dyw pethau ddim yn union fel y maen nhw’n ymddangos ac rwy’n dwli ar yr ansicrwydd hwnnw. Rwy’n defnyddio fy nghamera fel dyddiadur gweledol a byddaf yn cofnodi amrywiaeth helaeth o bynciau, ac yn arbennig unrhyw farciau, llwybrau ac olion fydd wedi’u creu’n anfwriadol gan bobl a natur. Dyma ‘gardiau ymweld’ ein bodolaeth ac mae’r arsylwadau hyn yn gwau eu ffordd drwy’r isymwybod gan ddod yn rhan o’m lluniau. Byddaf bob amser yn chwilio am ddulliau o greu marciau ‘ail law’, yn ôl fy nisgrifiad i ohonynt, gan geisio fy rhyddhau fy hun o’r weithred ymwybodol o greu marciau.
Bûm yn tynnu ffotograffau ac yn casglu hen nythod adar ers nifer o flynyddoedd ac rwy’n falch dros ben o gael y cyfle i lunio gwaith newydd gan ddefnyddio nyth yr aderyn fel fy man cychwyn.