PHILIP NICOL: PAENTIADAU DIWEDDAR
Hydref 24 - Tachwedd 30
Enillodd Philip Nicol, sy’n byw yng Nghaerdydd, y Fedal
Aur mewn Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002. Detholiad
o weithiau gafodd eu harddangos yn wreiddiol yn Amgueddfa ac Oriel
Ddarluniau Casnewydd yn Ionawr 2005 yw’r arddangosfa hon.
Mae Nicol yn creu paentiadau goleuol o ardaloedd dinesig lle caiff
y cyffredin a’r dibwys eu trawsnewid yn bethau hynod. Mae’r
gweithiau hyn, sy’n lled freuddwydiol ac yn fetaffisegol o
ran cymeriad, yn cyflwyno ‘golwg’ arbennig iawn o’r
byd rydym yn byw ynddo ac y credwn ein bod yn ei adnabod.
Thema’r paentiadau yw bywyd yn y ddinas. Eto i gyd mae nifer
ohonynt yn hepgor y ffigur dynol yn gyfan gwbl, gan fod eu diddordeb
yn fwy yn y bywyd cyfunol y mae’r ddinas yn mynnu rhoi bod
iddo drwy’r lleoedd sydd ar gael ynddi nag yn straeon arbennig
unigolion. Mewn sawl achos, gwelir ceir yn cymryd lle dynion, gan
eu bod yn wrthrychau symudol y mae’n rhaid i’r ddinas
ymgyfarwyddo â nhw, yn yr un modd ag y mae’n rhaid iddi
gynefino â phobl.
Mae’r darluniau’n gwrthsefyll geiriau, a phrin yw’r
cliwiau a roddir i’r hyn a ddigwyddodd cyn ac wedi’r
digwyddiadau sy’n cael eu croniclo. Tenau hefyd yw’r
wybodaeth am ddigwyddiadau y tu allan i ffrâm y darlun ac
o’r herwydd caiff digwyddiadau dibwys eu hynysu mewn dull
minimal ac enigmatig.
Ceir gwrthgyferbyniad rhwng amser y croniclo, lle mae’r profiad
o amser yn barhad, ag amser ‘ffotograffig’, sef y foment
arunig a statig. Mae nodweddion ffotograffig, megis ymyl y cynfas
yn torri drwy wrthrychau, pylu nodweddion yn y blaendir a’r
ymdeimlad o giledrychiad wrth fynd heibio, yn amlwg yn y paentiadau,
sy’n ein hatgoffa mai confensiynau ffotograffig yw’r
rhain.
Defnyddir cysgod a goleuni, yn aml ar lun goliwiad, er mwyn gosod
llwyfan sydd wedi ei bellhau rhywfaint oddi wrth y gwyliwr. Caiff
cysgod a goleuni eu defnyddio hefyd i’n tynnu i mewn i’r
llun, ac i greu ymdeimlad o symudiad, hyd yn oed pan fydd y golygfeydd
a ddarlunnir yn statig. Daw’r goleuni yn y lluniau yn aml
o nifer o ffynonellau, gan daflu cysgodion mewn sawl cyfeiriad.
Mae hyn yn dwyn i gof y golau a geir mewn theatr ac yn dwysáu
ymdeimlad y gwyliwr bod rhywbeth yn cael ei gyflawni yn y paentiadau,
hyd yn oed pan fydd y lluniau hynny’n gwrthsefyll geiriau.
Mae’r cysgodion a’r goleuni a deflir hefyd yn cyfrannu
at ymdeimlad o ddisgwyliad neu ragwelediad sydd weithiau’n
ymylu ar ymdeimlad o anesmwythder, ond sydd eto, ar brydiau, yn
ddeniadol a dyrchafol.
Perthyn rhyw naws fugeiliol i nifer o’r paentiadau, ynghyd
ag arafwch a distawrwydd sydd, gellid tybio, yn anghytuno â’r
amgylchfyd dinesig. Ond awgryma’r nodwedd hon ym mhaentiadau
Philip Nicol fod y bugeiliol, oddi mewn i’r amgylchfyd dinesig,
yn goroesi fel cyflwr meddwl sy’n trawsffurfio elfennau megis
clwstwr o goed yn arwyddluniau o fywyd gwahanol iawn - arwyddluniau
y bydd trigolion dinesig yn eu dyfeisio er mwyn dianc oddi wrth
realiti’r byd o’u cwmpas.
Mae’r paentiadau yn portreadu effeithiau seicolegol bywyd
mewn dinas yn gymaint â thrafod pensaernïaeth neu fangre.
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|