oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Peter Rossiter Peter Rossiter

Peter Rossiter - Oriel Uchaf

Gweithiau Diweddar
1 Mai - 31 Mai 2006


Datganiad yr Artist

Mae paent i arlunydd fel geiriau i awdur; weithiau byddaf yn fy nghael fy hun wedi fy swyno gymaint gan diwb newydd o baent olew, bydd pob lliw yn siarad â mi gyda’i dynfa emosiynol ei hun; bydd pob pigment yn ymddwyn gyda’i nodweddion neu ei hynodrwydd ei hun.

Lliw fu fy mhrif gryfder erioed ond mae nifer o’m gweithiau diweddar yn rhoi pwyslais o’r newydd ar effeithiau goleuni. Dechreuodd hyn yn ystod gwanwyn y llynedd wrth i mi dynnu lluniau â chamera o batrymau cyferbyniol tywyll a golau mewn lôn dan lif y tu ôl i’n tŷ ni, a gwylio drych-effaith goleuni ar ddŵr crychdonnog, a delweddaeth ddamweiniol cysgodion wrth iddynt doddi. Euthum allan ym mhob tywydd, weithiau â’r dŵr mwdlyd yn cyrraedd hyd frig coesau f’esgidiau glaw, i wylio a chofnodi patrymau cyfnewidiol goleuni.

Yn ystod gaeaf eleni, deuthum i sylweddoli fy mod yn fwyfwy ymwybodol o raddoliadau cynnil, o linellau caled i rai meddal - maent i’w gweld ym mhobman ym myd natur. Rwyf wedi ceisio defnyddio rhywfaint o hyn yn fy nghynfasau, ynghyd ag iaith naturiol ffurfiau wedi’u trosi. Rwy’n dwli gweld natur drwy ei hidlenni naturiol: fel y byd yn cael ei drawsffurfio wrth edrych arno drwy ffenestr sy’n cael ei golchi â glaw, eirlaw neu eira, gyda phopeth yn cael ei symleiddio a’i aflunio’n gynyddol, i’r graddau lle nad yw bellach yn bosibl ei adnabod. Pe bawn yn dychwelyd i ddinas i fyw, mae’n debyg mai golau stryd a blaen siopau disglair yn cael eu hadlewyrchu yn y palmentydd gwlyb fyddai’n rhoi pleser i mi, ond rwy’n credu fod rhywbeth arbennig ynglŷn â “hidlenni naturiol”.

Rwyf wedi defnyddio’r camera digidol heb unrhyw ymgais i sicrhau perffeithrwydd ffotograffig, ond yn hytrach, y gwrthwyneb i hynny mewn gwirionedd, gan ei wthio i begwn eithaf ei allu, lle mae’r ddelwedd yn brwydro gyda ffeithiau caled y “byd go iawn” a “realiti” bondigrybwyll, i greu rhywbeth sydd bron yn amhosibl ei adnabod ac eto’n gyfarwydd.

Rwy’n credu mai hyn yw rhan o swyddogaeth arlunio haniaethol, sef darlunio gweledigaeth fewnol, ynghanol byd sy’n orlawn o wrthrychau adnabyddadwy a phenodol, er mwyn creu delweddau o bethau dienw - i’n cynorthwyo i weld unwaith eto, mewn ffordd ffres, a hynny, fel pe bai am y tro cyntaf.

Peter Rossiter 2006

Hefyd yn arddangos yn Oriel Mwldan Isaf - Angharad Taris - 'Ymlyniad'

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|