oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Peter Bodenham Peter Bodenham Juliette Murphy

Teithio
15eg Rhagfyr 2007 – 26ain Ionawr 2008

Peter Bodenham - Lluis Penaranda - Juliette Murphy

Mae’r arddangosfa Transitar / Teithio yn dwyn ynghyd waith dau arlunydd o Gatalonia ac un arlunydd o Aberteifi, Cymru. Yn dilyn teithiau’r arlunwyr gwledig hyn yn Sbaen, daethpwyd â hwy ynghyd gan y cyhoeddwyr ‘Parthian Books’. Mae’r arlunwyr yn gweithio mewn nifer o wahanol gyfryngau ac yn eu plith ceir lluniadau, paentiadau, cerfluniau a chelfyddyd yn seiliedig ar y rhyngrwyd. Mae ffocws mynegiannol eu celfyddyd yn ymdrin â’r cysyniad o deithio a naratif, ar droed ac yn y meddwl.

Yn gysylltiedig â’r arddangosfa hon cynhelir digwyddiad yn dwyn y teitl
Cysylltiadau Pell/Remote Connections
5.00yh - 6.00yh ar Ddydd Sadwrn 15fed Rhagfyr

Trafodaeth ddarluniadol gyda’r arlunwyr Peter Bodenham, Juliette Murphy, Lluis Penaranda a’r awdur a’r cyfieithydd, Richard Thompson. Bydd y sgwrs yn ymdrin â themâu sy’n gysylltiedig â gwaith yr arlunwyr a’r cysylltiadau hynny sy’n datblygu hyd dragywydd y mae’r rhyngrwyd yn eu creu drwy gyfrwng negeseuon e-bost, blogs a chelfyddyd sy’n seiliedig ar y we. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Pris y tocynnau yw £5 yr un. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01239 621 200 am fwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda

Cysylltau gwe Peter Bodenham:-
www.walk-with-me.co.uk
www.peterbodenham.co.uk

 

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|