oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


PETER COVIELLO mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery GEOFF YEOMANS mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery TONY STEELE-MORGAN

DATGANIAD PERSONOL
GRADDLIWIAU

Awgryma Da Vinci ein bod yn chwilio am gyfansoddiadau unigryw ar furiau wedi eu staenio. Mae Paul Nash yn sôn am dirluniau dieithr am nad ydym, hyd yma, wedi eu gweld.

Ochrau llongau sy’n rhydu yw fy muriau staenedig i. Heddiw yw testun fy ‘nhirluniau’. Maen nhw’n dymhorol, nid yn dopograffig, er i’r ffynonellau gael eu canfod yn sir Benfro rhwng 2002 a 2003.

Mae’r dull o lunio motif syml gyda chyllell, rholer a chlwtyn, yn caniatáu i’r paent rodio a rhedeg hyd nes y ceir rhyw sefydlogrwydd, eglurder a thaclusrwydd. Bryd hynny, bydd y deunydd yn troi’n feistr a’r paentiwr yn brentis.

Rhwng chwyn arsylwi a chreigiau darlunio mae syniadau dwyfol a diawledig yn llechu. Mae drychiolaethau ac ysbrydion o fyd hanes celf, o’r newyddion ar y sgrîn fach, o lys barn neu gofgolofn ryfel, yn dod i’r wyneb fel broc môr pan fydd y llanw ar drai.

TONY STEELE-MORGAN
DATGANIAD ARTIST

Nodwedd amlycaf gwaith Tony Steele-Morgan yw ei ddawn ddylunio ddifrycheulyd, ond bydd un cipolwg byr hefyd yn datgelu ffordd gyfareddol yr artist o chwarae gyda phersbectif a syniadau.

Mae’r dull o greu’r paentiadau yn glir, yn fanwl gywir ac, ar adegau, yn rhyfeddol o ddisglair a llachar. Ar brydiau, bydd ei ddarlun o’r Fam Theresa ynghyd â gweithiau eraill sydd â thestunau o’r Trydydd Byd, yn ymddangos fel pe baent yn tywynnu’n gyhuddol o’r cynfas. Ond ar gynifer o droeon eraill, byddwn yn canfod dull mwy hynaws, mwy cellweirus. Mae nifer o’r lluniau wedi eu gosod mewn ffrâm allanol, ffenestr fel arfer, gyda’i sil wedi ei britho â’r addurn sy’n ymddangos fynychaf yn ei waith – y glöyn byw. Canlyniad hyn yw creu’r effeithiau persbectif a dimensiwn mwyaf atyniadol ac anarferol.

A’r tu allan i’r ffenestr gwelir byd sy’n aml yn gyniweiriol, yn fytholegol hyd yn oed. Mae yma dirluniau, mae yma gymeriadau o wahanol gyfnodau a lleoliadau, ac Adda ac Efa o bryd i’w gilydd. Mae’n bosibl fod gwaith Steele-Morgan yn ymchwil am ei Eden bersonol, ond mae’r ymchwil honno wedi ei chynllunio’n benodol ac yn fanwl gywir.

Robert Nisbet

PETER COVIELLO
PERSONOL DATGANIAD

Mae fy mhroses yn gymhleth ac estynedig ar brydiau, dro arall, mae’n sydyn ac yn ddigymell. Bydd rhai delweddau’n ymddangos yn gyflym iawn, daw eraill i’r amlwg yn unig wedi cyfnod beichiogi sylweddol; byddaf yn ailgydio yn y gwaith a’i newid yn llwyr yn dilyn cyfnod hir o gael ei osod o’r neilltu.

Fydda’ i ddim yn anelu at ddyfeisiau newydd. Rwy’n llunio gwrthrychau mewn ffurfiau a defnyddiau rwy’n gysurus ac yn gyfarwydd â nhw; mae gwreiddioldeb yn deillio o’r ymchwil am iaith fydd yn gyfrwng i roi mynegiant i syniadau newydd.

Mae mytholeg yn rhoi i mi sylfaen ar gyfer ymwybyddiaeth, sy’n cael ei lywio gan fy niddordeb mewn hanfodion Cwantwm ac anhrefn a Chosmoleg (Diddordeb, meddaf, yn bwyllog. Dwyf i ddim yn fathemategydd nac yn wyddonydd o fath yn y byd!) Siawns, ansicrwydd ac amwysedd yw’r termau allweddol. Mae amgylchoedd gweledol yn dylanwadu ar y gwrthrychau rwy’n eu creu, ond maen nhw’n parhau yn eiconaidd a goddrychol yn eu hanfod.

 

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|