|
Merlin James
Paentiadau Îsl
Dyddiau 25th Tachwedd - Dyddiau 9th Rhagfyr 2004
Cafodd gwaith yr arlunydd Merlin James (a anwyd yng Nghaerdydd,
1960) ei arddangos ar draws Ewrop ac America. Mae’r arddangosfa
hon, a gychwynnwyd gan Oriel Talbot Rice ym Mhrifysgol Caeredin,
yn cynnig croestoriad o’i waith o flynyddoedd cynnar yr 1980au
hyd heddiw. Paentiadau ar raddfa fechan yw rhai James fel arfer,
gyda’u testunau yn rhai gwibiog ac amrywiol o ran eu harddull
a’u naws.
Maent yn gyforiog o gyfeiriadau hanesyddol at gelfyddyd
ac yn gymhleth yn eu dull o ymholi i gyfrwng paentio ei hun, ac
yn cynnwys darluniadau o bensaernïaeth, tirluniau a morluniau,
haniaethau amlwg, a phaentiadau ffigur dengar o bersonol. Bu’r
sioe ar daith i BayArt, Caerdydd a hon yw’r ail dro yn unig
i James ei harddangos yng Nghymru, ei famwlad (cafwyd arddangosfa
unigol ganddo yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru ym 1997).
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|