oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Mary Lloyd Jones - Iaith Gyntaf

Mary Lloyd Jones

Iaith Gyntaf
Dydd Sadwrn 13 Ionawr – Dydd Sul 25 Chwefror 2007

Thema’r arddangosfa hon yw’r ieithoedd lleiafrifol hynny sydd mewn perygl, sef y Gymraeg a’i chwaer ieithoedd, Llydaweg, Cernyweg, Gwyddeleg Iwerddon a Gaeleg yr Alban.

Drwy ddwyn cysylltiadau gweledol â’r gair ysgrifenedig, â hen lenyddiaeth Cymru, Iwerddon, Llydaw a’r Alban, â cherfiadau cynhanes, yr iaith Ogam a’r Wyddor Farddol, fy ngobaith yw tynnu sylw at fater colli iaith.

Fy nod yw y bydd fy ngwaith yn adlewyrchu fy hunaniaeth Gymraeg a’r ffaith fy mod yn perthyn i leiafrif, fy mherthynas â’r tir, ymwybyddiaeth o hanes yn ogystal â’n traddodiadau llafar a llenyddol. 

Drwy ddefnyddio olew ar gynfas a chyfryngau cymysg ar bapur, byddaf yn chwilio am ddyfeisiadau fydd yn fy ngalluogi i greu gweithiau amlhaenog.  Mae technegau llunio printiau digidol ar y cyd â phaentio wedi fy ngalluogi i gynhyrchu gweithiau ar raddfa fawr a bach sy’n cynnwys deunydd o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â deunydd o Brifysgol Brest, yr Academi Wyddelig a Choleg y Drindod, Dulyn.  Drwy gyfosod testunau a deunydd arall a ganfuwyd ar arwynebau wedi’u paentio a’u marcio, mae’r arddangosfa yn creu gorymdaith ddathliadol o ddelweddau, cyfluniadau a chyfansoddiadau.

Cyfeiria darnau unigol at ffigurau hanesyddol a fu’n gyfrwng i ddiogelu llawysgrifau Cymraeg i’r dyfodol: Ieuan Fardd, Lewis Morris, Edward Lhuyd, Iolo Morgannwg a Syr John Rhys. Bydd y rhai hynny sy’n gyfarwydd â llenyddiaeth Gymraeg yn adnabod dyfyniadau o’r “Gododdin”, “Taliesin” a’r “Mabinogi”.

Y ffordd orau i ddarllen testunau hynafol neu estron yw drwy edrych arnynt mewn ffordd ymylol neu ar osgo, rhyw ddarllen rhwng y llinellau fel petai.  Mae’r gwaith yn amlygiad o’r “llall”.

 Gellir darllen yr arddangosfa hon fel map sy’n galluogi’r rhai yn y canol i gyrraedd y cyrion.

Fel arlunydd, casgliad o farciau yw fy iaith.  Gall y rhain fod yn atgofion o lechweddau, cysgodion cymylau, dail yn y gwynt neu wyneb creigiau.  At y rhain, ychwanegwyd graffiti ar waliau, yr wyddor Ogam a’r wyddor Farddol a’r sbiralau, yr igamogamau a’r dyfeisiadau llinellol sydd i’w gweld mewn cerfweithiau cynhanes sy’n cynrychioli gwerthoedd cwbl wrthgyferbyniol â’n hoes dechnolegol fyd-eang ni.

Mae’r gwaith yn yr arddangosfa hon yn ymgais i dynnu’r llen ac i ddatgelu a dathlu dyddodion cyfoethog ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol ac i godi pont rhwng dulliau gweledol, llafar ac ysgrifenedig o gyfathrebu.

Os yw’r Gymraeg, Gaeleg a’r Wyddeleg i’w harbed rhag dilyn hynt yr ieithoedd megalithig coll, rhaid i’r rhai hynny sy’n siarad iaith fyd-eang yn unig werthfawrogi’r amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n parhau’n anweledig ac wedi’i hesgeuluso.

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|