oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Llinellau a Haenau Marion Vere Richard Vicary


Llinellau a Haenau

Dydd Llun 27 Mawrth - Dydd Mercher 26 Ebrill

Llinellau: stribed, streipen neu edau
Strata: tanhaenu, haen, lamineiddiad, dyfnder fertigol.

Mae “Llinellau a Strata” yn cyflwyno croestoriad o arferion lluniadu cyfoes gan arlunwyr a anwyd yng Nghymru neu sy’n byw neu’n gweithio yma.

Cyfeiria teitl y sioe at brosesau lluniadu yn hytrach na deunydd pwnc; lluniad unionlin neu galigraffig ar draws arwyneb darlun; wedi eu hadeiladu a’u troshaenu drwy gyfres o addasiadau a chywiriadau.

Dewiswyd yr arddangosfa hon o blith dros 600 o luniau gan bedwar o arlunwyr sy’n nodi bod lluniadu yn ganolog i’w harferion celf personol.  Nid ydynt wedi pennu unrhyw gyfyngiadau o ran maint, dyddiad neu gyfrwng; cafodd gwaith dros amser a gwaith tri dimensiwn ei gynnwys lle mae elfennau lluniadu ar eu hamlycaf.  O ganlyniad, cynrychiolir y gelfyddyd gain a’r gelfyddyd gymhwysol.

Er bod “Llinellau a Strata” yn cynnwys ystod ddiddorol o waith, nid yw’n gwarantu y bydd yn diffinio lluniadu, ond mae’n addo ysgogi trafodaeth ynglŷn â’r hyn y gellid ei ystyried o bosibl yn lluniadu.


Datganiad y Curadur

Wrth gofnodi ein sylwadau, gwahoddir rhai prosesau penodol i ddigwydd; yn anochel mae’r dehongliad y mae ein meddyliau yn gosod ar hyd yn oed y nodau mwyaf syml yn tanio ein cysylltedd â’n breuddwydion ni a’n synnwyr cyfunol ni o gyfanfydaeth – y rhyngweithio rhwng ein meddyliau unigol ni a bydysawdau cyfochrog posibl eraill.
Charlie Sharp

Mae lluniadu yn golygu defnyddio cyfryngau gweledol i ddisgrifio, archwilio ac esbonio syniad: mae’n archwilio ac yn dadansoddi gwirioneddau sylfaenol ac yn eu dinoethi.
Carole King

Mae lluniau, boed yn gynrychioliad, yn ymgorfforiad o syniadau haniaethol, neu [hyd yn oed] yn ddarluniad diriaethol, darllenadwy, yn ymateb corfforol bwriadol gan yr arlunydd, ac yn bont rhwng y byd a’r dychymyg.
Diane Walkey

Wrth groesffordd symbyliadau gweledol, dadansoddi ymenyddol a dehongli ffisegol drwy gyfrwng llaw a braich, daw i’r golwg y marciau hynny sy’n cael eu hadnabod gennym fel lluniadu.  Mae lluniadu yn ddemocratig, yn ddi-ddosbarth, yn egalitaraidd.  Mae’n cadarnhau potensial yr unigolyn mewn byd cyfunol.  Mae’n ddull hygyrch, fforddiadwy, cludadwy.  Mae’n weithgaredd dynol, sylfaenol; diamser, hanfodol, cymhellol.
Glenn Ibbitson


Cynhelir cyfres o weithdai a sgyrsiau gan guraduron yr arddangosfa hon.
Mae pob gweithdy yn addas ar gyfer unigolion 16 a hŷn a derbynnir uchafrif o 15 ym mhob grŵp.

Y gost am le mewn un gweithdy yw £20 a £35 am unrhyw ddau weithdy.
Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, gwnewch gais am le ymlaen llaw drwy anfon siec at:

Diane Walkey, Awelfa, Cwmins, Llandudoch, SA43 3HF
neu rhowch ganiad i Diane ar 01239 621 746
Pris tocyn mynediad i’r sgyrsiau: £2 wrth y drws 

GWEITHDAI

SIAPAU A GWAGLEOEDD: Diane Walkey
Dydd Mercher 5 Ebrill 10.30yb - 4.30yp

RHITH A DIRWEDD: Diane Walkey
Dydd Iau 6 Ebrill 10.30yb - 4.30yp

Nod y ddau weithdy hwn yw hybu ymateb personol, sensitif drwy ddefnyddio amryfal gyfryngau lluniadu, gan gynnwys gludwaith, a hynny mewn ffordd greadigol. Byddwn yn archwilio cyfansoddiad, llinell, gwead, arlliw a chreu marc drwy luniadu gwrthrychol ac arbrofol.

Angen: dewis o ddefnyddiau lluniadu confensiynol, ynghyd â phapur newydd a phapur llwyd; glud PVA a thâp.

LLUNIADU’R FFURF: Glenn Ibbitson
Dydd Mawrth 11 Ebrill 10yb – 4yp   

Gweithdy lluniadu o’r fodel fyw, gan ganolbwyntio ar gyfrannedd, màs a chyfaint.  Awgrymiadau mesur a llwybrau brys.

Sesiwn ystum ac ymarferion 10 munud o hyd fydd yn datblygu yn astudiaeth hwy, awr a hanner o hyd

Angen: pensiliau, siarcol, pennau, inc, rhwbwyr, prennau mesur, papur graff, nytiau a bolltenni a chortyn (neu linell blwm!)

Y FFURF YN SYMUD: Glenn Ibbitson
Dydd Llun 24 Ebrill 10yb – 4yp   

Ymatebwch i’r her a gyflwynir gan fodel fyw sy’n symud.  Rhoddir pwyslais ar dechnegau deongliadol, a ddefnyddir amrywiaeth o gyfryngau lluniadu ar y cyd.  Bydd y sgwrs ragbaratoadol yn cael ei dilyn gan ddiwrnod o symud di-baid - gan y model a’r myfyrwyr fel ei gilydd!

Angen: dewis o gyfryngau a phapur lluniadu confensiynol, ynghyd â chylchgronau a phapurau lliw.

SGYRSIAU

“FELLY, BETH Y***** YW LLUNIADU ‘TA BETH?”
Dydd Iau 20 Ebrill 7.30yh - 9.30yh 

Cyflwyniad darluniadol gan Glenn Ibbitson ar ofered diffinio lluniadu, gyda chyfeiriadau penodol ar y gweithiau sy’n ael eu harddangos yn Oriel Mwldan.

“FFILMIO’R BROSES LUNIADU”: sgwrs gan Charlie Sharp
Dydd Llun 24 Ebrill 7.30yh - 9.30yh

Bydd Charlie yn siarad am y gwaith o baratoi’r ffilm hon; “Yr Arlunydd, ei Fodel a Chreu Llun”

Enillydd Gwobr y Bobl gwerth £300, a gyflwynwyd ar y noson gan Audrey Walker O.B.E., oedd Trudi Finch am ei ysgythru sychbwynt o’r enw ‘Red Hen’. Derbyniodd ei gwaith hyfryd y nifer fwyaf o bleidleisiau o’r cyhoedd wnaeth ymweld â ‘r arddangosfa.

Cyflwynodd Wynne Jones, o Stiwdio Recordio Fflach, Gwobr Fflach gwerth £100 i Gail Gauden am ei lluniad sercol ‘Sheltered’.

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

Fflach Creative Mwldan

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|