oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Kevan Coulton

Kevan Coulton

Pobl, Lleoedd a Phethau - Oriel Uchaf

Dyddllun 4 Gorffennaf - Dyddmercher 27 Gorffennaf 2005


Datganiad Personol

Cefais fy ngeni mewn pentref glofaol yn Swydd Gaerlwr (1944). Bûm yn astudio cerflunwaith yng Ngholeg Celf Caeredin dan gyfarwyddyd Eric Schilsky R.A. Canfuwyd fy mod yn dioddef o Friedreich’s Ataxia ac ym mhen hir a hwyr roeddwn yn gaeth i gadair olwyn a gwaith cerflunio yn dasg amhosibl. Roeddwn wedi arddangos cerfluniau yn oriel yr RSA yng Nghaeredin, gan ennill gwobr Keith; bûm hefyd yn enillydd mewn cystadleuaeth ryngwladol gyda Chyngor y Celfyddydau yn yr Iseldiroedd.

Yn ystod yr 80au cefais dro ar gamera ffrind sy’n ffotograffydd a byth ers hynny dwi ddim wedi stopio!

Rwyf wedi arddangos fy ngwaith yn Worksop, Huddersfield a Nottingham; cyhoeddwyd fy lluniau mewn papurau newydd a defnyddiwyd fy lluniau du a gwyn ar gyfer y llyfr ‘Classic touring routes in Scotland’. Mae’r portreadau yn deillio o’m diddordeb mewn cerflunwaith, a daw’r testunau diwydiannol, dybiwn i, o amgylchfyd fy mhlentyndod. Rhoddodd tirluniau her i’r ffotograffydd du a gwyn o’r cychwyn, ac rwy’ dros fy mhen a’m clustiau mewn cariad â’r India.

Symudasom i Gymru rai blynyddoedd yn ôl ac mae’r arfordir creigiog ac ansawdd y goleuni wedi f’ysbrydoli unwaith eto i greu cerfluniau, a hynny ar ôl bwlch o 25 mlynedd.

Mae pob un o’r celfyddydau gweledol yn siarad iaith gyffelyb; y neges-ac nid y cyfrwng-yw’r hyn sy’n bwysig

Hefyd yn arddangos yn Mwldan Isaf - Tina Carr, Annemarie Schöne - Colli a Chanfod

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|