oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Karen Deeley Photograph - Seascape

Astudiaethau mewn Arian a Halen

Dyddllun Hydref 4 - Dyddiau 28 Hydref 2004

Datganiad yr Artist

Gan ei bod yn byw yng Ngogledd Sir Benfro, ysbrydolwyd Karen gan fryniau a hafanau Gorllewin Cymru ac mae’n chwilio am ffurfiau cerfluniol ag iddynt bwyslais
ar gyfansoddiad a gwead. Caiff pob ffotograff ei argraffu â llaw yn ei stiwdio ym mynyddoedd y Preselau, lle bydd yn defnyddio technegau traddodiadol ystafell dywyll.

Yn dilyn cyfnod fel myfyrwraig gelfyddyd a chynllunio, aeth Karen yn ei blaen i arbenigo ar lunio gwisgoedd ar gyfer theatrau megis Theatr y Globe, Shakespeare a pharhaodd â’i diddordeb mewn ffotograffiaeth drwy ddilyn cyrsiau pellach yn Gillespie’s, Caeredin a Central St Martins, Llundain.

Roedd ei harddangosfeydd cyntaf, gafodd eu disgrifio fel rhai gwirioneddol ysbrydoledig, yn darlunio’r corstir a’r arfordir sy’n gymaint nodwedd o’i hardal enedigol, Dwyrain Anglia, gyda goleuni Môr y Gogledd yn pwysleisio eu harddwch.

Yn dilyn arddangosfeydd yn Neuadd y Frenhines, Arberth ym mis Ebrill ac Oriel Celtic Images yn ystod haf eleni, mae’n bleser gan Karen gyflwyno casgliad o astudiaethau diweddar yn Oriel Mwldan.

”Delweddau treiddgar sy’n dal manylion sy’n aml ynghudd yn y dirwedd”
Disgrifiad o waith Karen gan un a fu’n ymweld â’i harddangosfa.

Hefyd yn arddangos yn Mwldan Isaf - Area 43 - Healthy Hearts

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|