oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Ifan Bates

Ifan Bates - Oriel Uchaf

Gothig Canoldirol

Dyddllun 2 Mai - Dyddiau 2 Mehefin 2005


Ifan Bates
Datganiad Personol

Bûm yn astudio dylunio graffig ym Mhrifysgol Wolverhampton ond bu gennyf ddiddordeb o’r dechrau yn y gwahanol ddisgyblaethau y tu hwnt i’r maes hwnnw. Ar ôl gweithio fel dylunydd yn Birmingham a Rotterdam, rwyf bellach yn gyfrifol am stiwdio ddylunio fechan yng Ngogledd Orllewin Llundain ac rwy’n parhau â’m prosiectau celf/dylunio yn ogystal â bwrw ati i ddatblygu fy niddordeb mewn gwaith clywedol. Rwyf ar hyn o bryd yn astudio’n rhan-amser yng Ngholeg Central St Martins.

Daeth y corff o waith sy’n dwyn yr enw ‘Gothig Canoldirol’ i fod yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y Brifysgol. Ynddo, rwy’n cymharu ac yn cyferbynnu’r ffilmiau Deliverance (John Boorman) a Southern Comfort (Walter Hill). Teimlais reidrwydd i ychwanegu elfen weledol at fy thesis ac o ganlyniad lluniwyd ‘Gothig Canoldirol’. Euthum ati i dynnu ffotograffau o wahanol goedwigoedd ar draws ardaloedd yng nghanolbarth Lloegr sy’n adleisio golwg a naws y ddwy ffilm. Mae’r ffotograffau, fel y ffilmiau, yn chwarae ar arswyd coedwigoedd ac unigedd lleoedd o’r fath. Ynddynt, caiff dyn y teimlad fod rhywbeth wedi digwydd neu ar fin digwydd.

Cefais fy ysbrydoli gan y ddwy ffilm hon ac euthum ati i ddarlunio fy nghred fod ‘Hagr yn Hardd’, ac i bortreadu’r dirwedd anghyfannedd fel golygfa gwbl ddarluniadwy.

Hefyd yn arddangos yn Oriel Mwldan Isaf - Charlotte Swann 'Large Scale Paintings'

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|