oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Ian Phillips Artist - Borth Seafront Ian Phillips Artist - Moel Cerni Ian Phillips Artist - Borth Groynes

Llwybr Arfordir Ceredigion
Sadwrn 7 Gorffennaf – Sadwrn 11 Awst 2007 

Ian Phillips

Mae pob llun yn cychwyn wrth i fi gerdded gyda’m llyfr braslunio yn fy llaw yn chwilio am batrymau lliwgar a siapau cadarn syml sy’n denu fy sylw.  Byddaf yn cofnodi hyn fel dyluniad llinell du a gwyn ynghyd â nodiadau ar liw ac awyrgylch.  Gan ddefnyddio’r dyluniad hwn yn sail i’m printiau leino, byddaf yn ceisio distyllu lleoliad i’w hanfod ac, ar yr un pryd, yn ceisio cadw rhywfaint o gywirdeb topograffig a thymhorol.
Roedd cerdded a lluniadu ar hyd llwybr arfordir Ceredigion wrth i olau diwedd hydref bylu’n aeaf yn bleser pur.  Roedd y cyferbyniad rhwng y cymylau a symudai’n araf, y caeau llonydd, a’r clogwyni ar y chwith yn erbyn symudiad a lliwiau cyfnewidiol y môr islaw, yn fy swyno’n barhaus.  Euthum ati’n ddygn i geisio dal yr awyrgylch hwn o fyrhoedledd ac amrywiant yn y gyfres hon o brintiau leino.

Drwy edrych ar fy mhrintiadau a’r wybodaeth sydd ar gael gyda nhw, gobeithiaf annog y gynulleidfa i geisio dod o hyd i ac i archwilio drostynt eu hunain y lliwiau a’r patrymau hardd sydd i’w gweld yn y mannau hynny lle bûm yn cerdded.

 

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|