oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Helen Booth

Helen Booth

Gweithiau Newydd

Oriel Lawr - Sadwrn 21 Ebrill- Sadwrn 26 Mai 2007

Ymateb i dirwedd Cymru a’i chymylau tonnog dramatig, ei hawyr leddf a’i moroedd geirwon, chwyrn yw’r paentiadau newydd hyn.

Os edrychwch yn fanwl ar fy narluniau, fe welwch haen ar ben haen o baent olew.  Byddaf yn adeiladu’r arwyneb ac yn tynnu i ffwrdd yn yr un dull organig ag y bydd amser yn trawsffurfio’r dirwedd rydym yn byw ynddi.  Mynd a dod wna’r tymhorau ond cylchdro tragwyddol byd natur, ei harddwch cynhenid a’i mawredd amlwg yw’r hyn sy’n gafael ynof i.  Mae gweithio yn y dirwedd, ceisio dirnad natur ac ymdrechu i ddeall byrder ein sefyllfa ni ein hunain yn darostwng rhywun ac yn ei ysbrydoli ar yr un pryd. 
Y daith gerdded ar hyd y creigiau yn Llangrannog a’r golygfeydd godidog o frig mynyddoedd y Preselau yw’r hyn sy’n f’ysbrydoli i.  Delweddau ystumiol yw’r rhain sy’n cynnig golwg bersonol ar natur drosgynnol ei hun.

Hefyd yn arddangos yn Oriel Mwldan Uchaf - Brigitte Bailey - Adleisiau

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|