|
Sut i sicrhau fod eich gwaith yn cael
ei ddewis
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal arddangosfa yn Oriel Mwldan,
y cam cyntaf yw anfon atom eich manylion ac enghreifftiau diweddar
o’ch gwaith (ffotograffau wedi eu printio, digidol neu sleidiau)
wedi eu labelu’n glir gyda’ch enw, teitl y gwaith, dyddiad,
cyfrwng a mesuriadau ynghyd ag unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd diweddar
gan gynnwys catalogau. O safbwynt gwaith tafluniedig, dylech gyflwyno
cynllun i’r Oriel, os gwelwch yn dda, ynghyd â thystiolaeth
ategol ac enghraifft o’ch prisiau. Nodwch unrhyw ofynion arbennig
ynglyn ag arddangos, gosod a chadw darluniau yn eich cais, os gwelwch
yn dda.
Mae Oriel Mwldan yn gweithredu ar yr egwyddor o raglen tair blynedd
sy’n cynnwys dewis cytbwys o gelfyddydau gweledol gan arlunwyr
proffesiynol, arlunwyr newydd a grwpiau cymunedol. Mae o leiaf
ddeuddeg mis o amser dirwyn fel arfer.
Bydd Oriel Mwldan yn ymdrechu i anfon ymateb i bob
cais ac i ddychwelyd eiddo’r ymgeisydd. Nid yw Oriel Mwldan,
fodd bynnag, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd y cais yn cael
ei golli neu ei niweidio.
Cytundeb
Ar ôl cael eich dewis, bydd Oriel Mwldan yn anfon Cytundeb
Artist at yr artist neu’r sefydliad er mwyn i’r cytundeb
hwnnw gael ei arwyddo a’i anfon yn ôl i gydnabod derbyn
telerau ac amodau’r Oriel.
Gosod y Gwaith
Os nad oes trefniadau eraill wedi eu gwneud, cyfrifoldeb yr artist(iaid)
fydd cludo’r gwaith i ac o’r oriel gan sicrhau ei
fod yn cyrraedd ac yn cael ei gasglu erbyn yr amser a’r
dyddiad a drefnwyd gan Oriel Mwldan.
Dylid gosod set o labeli ar y gwaith yn nodi eich enw, teitl y
gwaith, dyddiad, cyfrwng a dimensiwn a’r pris, os yn berthnasol.
Rhaid i’r gwaith gael ei bacio’n ofalus a dylid gosod
labeli yn ddiogel ar y tu allan i’r deunydd pacio cyn iddo
gyrraedd yr oriel. Dylid cyflwyno gwaith dau ddimensiwn gyda phlatiau
drych yn eu lle yn barod ar gyfer ei arddangos. Rhaid trafod unrhyw
newidiadau i’r trefniadau uchod gyda staff yr Oriel cyn yr
arddangosfa.
Bydd Oriel Mwldan yn gyfrifol am ddewis ac arddangos y gwaith terfynol.
Derbyniadau
Ar hyn o bryd, ein polisi yw talu costau’r derbyniad a bydd
y sawl/rhai sy’n arddangos yn darparu’r gwin ac ati.
Cyhoeddiadau
Mae Oriel Mwldan yn awyddus i bob arddangosfa fod yn llwyddiant
ac mae’n dymuno hysbysebu rhaglen yr Oriel mor bell ymlaen
llaw ag sy’n bosibl. Bydd Oriel Mwldan yn gyfrifol am gynhyrchu’r
arwyddion ar gyfer yr arddangosfa, rhestr brisiau, os yn berthnasol,
cynllun y poster ac am argraffu copïau er mwyn hysbysebu’r
arddangosfa, yn unol ag arddull ddylunio'r Oriel ei hun, heb
godi unrhyw gost ychwanegol ar yr arlunydd(arlunwyr). Rhaid trafod
unrhyw ofynion ychwanegol.
Er mwyn ein cynorthwyo i baratoi arwyddion a rhestr brisiau erbyn
diwrnod agor yr arddangosfa, gofynnwn i’r sawl / rhai sy’n
arddangos gyflwyno’r manylion canlynol ymlaen llaw:
• Teitl
y gwaith, dyddiad, cyfrwng, dimensiynau
• Pris, os yn berthnasol
Gwerthiant a Chomisiwn
Pan fydd gweithiau ar werth, bydd Oriel Mwldan yn derbyn comisiwn
sy’n gyfwerth â 35% o’r pris adwerthu. Bydd Oriel
Mwldan yn talu unrhyw werthiannau sydd wedi dod i ran yr arddangoswr
(arddangoswyr) drwy siec ac yn anfon anfoneb gyda datganiad amgaeedig
cyn pen 10 diwrnod gwaith i ddiwedd y digwyddiad..
Yswiriant a diogelwch
Mae’r Oriel, o safbwynt diogelwch, wedi’i gosod yn
Nosbarth C, sy’n golygu nad yw’n cael ei goruchwylio’n
rheolaidd, er bod camerâu diogelwch wedi’u gosod yn
eu lle. Mae Oriel Mwldan yn derbyn cyfrifoldeb dros waith yr artistiaid,
hyd at £41,280 o ran gwerth, tra bydd y gwaith hwnnw yn yr
adeilad. Mae’n ofynnol eich bod yn rhoi gwybod i’r
Oriel os bydd eich gwaith yn werth mwy na’r swm uchod er
mwyn i ni drefnu yswiriant ychwanegol dros gyfnod yr arddangosfa.
Am fanylion pellach, cysylltwch ag
Oriel Mwldan drwy lythyr, os
gwelwch yn dda:
Ymholiadau Oriel Mwldan, Theatr Mwldan, Heol Bath
House, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1JY
neu anfonwch neges e-bost
i sam@mwldan.co.uk
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|