Glenn Ibbitson - Oriel Isaf
Mwg a Drychau
Ddyd Llun 29 Awst - Dydd Mercher 21 Medi 2005
Glenn Ibbitson
Y ffurf ddynol yw thema ganolog fy nghelfwaith; nid lluniad neu
siâp delfrydol, glanweithedig y dyn neu’r wraig enwog,
ond y corff a’i fyrdd o ddiffygion, ei anghymesuredd a’i
anghysondebau, sy’n amodol ar y broses ddidostur honno, sef
heneiddio. Er mwyn ehangu cwmpas y diddordeb hirdymor hwn, mae’r
darluniau hyn yn ffurfio cefndir i’r Syrcas ac yn eu plith
ceir:
1 ‘Cywreinbethau’r Bod Dynol’
Darlunnir y rhain fel tablo sioe eilradd ac maent yn dathlu’r
amrywiad o’r canolig (neu’r delfrydol sy’n ffasiynol
ar hyn o bryd) mewn perthynas â’r ffisioleg ddynol,
sydd dan fygythiad mewn cymdeithas sy’n meddu ar y gallu technolegol
i weithredu dethol (an)naturiol, a
2 ‘Perfformwyr’
twmblwyr, swynwyr a’u cynorthwywyr. Gwelir pobl gyffredin
yr olwg yn perfformio campau hynod; cyferbynnir gallu corfforol
a thymhorol gyda deheurwydd y dwylo; act unigol sy’n arddangos
medrusrwydd (saethyddiaeth twyll-gamp) gyda’r rhith sy’n
cael ei chreu drwy gyd-gynllwynwyr a gwaith tîm (Y Bont Ddynol
a’r Wraig sy’n Ymgodi).
Nid cyfres o baentiadau sy’n darlunio sglein perfformiad gorffenedig
dan oleuadau yw hon; mae’n aros gyda’r prif gymeriadau
wrth iddynt ymarfer; mae eu gwaith yn mynd yn ei flaen. Hyd yma,
nid yw’r cymeriadau yn eu gwisgoedd llwyfan ac mae’r
sesiynau ymarfer yn digwydd mewn llennyrch yn y goedwig neu o flaen
cefnlenni theatrig sydd eto heb eu hagor a’u hymestyn i’r
eithaf.
Defnyddiais fy mhrofiad o dwyll gweledol fel artist golygfaol yn
y diwydiant ffilm a theledu i archwilio natur effeithiau trompe-l'oeil
a (cham)bortreadau. Cyfeirir yma at dechnegau sinematig cyfarwydd
(cefn-daflunio, torluniau, saethiadau drwy wydr, prostheteg) er
mwyn rhoi i’r darnau hyn ymdeimlad o anghytgord gweledol,
a chynhyrchir delweddau sydd, mewn un ffordd neu’i gilydd,
yn herio syniadau derbyniol am yr ymdeimlad o ddisgyrchiant, graddfa
a ffisioleg. Caiff syniadau a rhagdybiaethau’r gynulleidfa
eu hecsbloetio gan dwyll neu ystryw weledol er mwyn pylu’r
llinell rhwng y dilys a’r twyllodrus, realiti a lledrith.
Hefyd
yn arddangos yn Oriel Mwldan Uchaf - Rosie Simpson - Paentiadau
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|