oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Nightsong - Gareth Hugh Davies Limen - Gareth Hugh Davies Thaw - Gareth Hugh Davies

Gareth Hugh Davies
Olion

Rhagfyr 13 2008 – Ionawr 24 2009

Arddangosfa deithiol a gychwynnwyd gan Oriel Myrddin, Caerfyrddin

Arddangosfa deithiol a gychwynnwyd gan Oriel Myrddin, Caerfyrddin

Mae pob un ohonom yn gyfarwydd a’r delweddau yn y gyfres drawiadol hon o beintiadau sy’n rhan o’r arddangosfa ‘Olion’. Fforest o goed conwydd, awyr lwyd, cymylau glaw, byngalos, gorwelion, ffyrdd, llwybrau – dyma dirlun cyffredin De Cymru ar ol oes y diwydiannau mawr. Ond mae Gareth yn dehongli’i amgylchedd, ac yn ymwneud a’r dirwedd o’i gwmpas, gyda sensitifrwydd unigryw a greddfol. Trwy beidio a chynnwys cymeriadau yn ei dirluniau, mae ei beintiadau yn cyfleu colled, y cyflwr o fod yn ynysig, ac ofn – pethau sy’n ein poeni ni i gyd. Mae ei waith yn ein tywys i fyd enigmatic: man sy’n gyfarwydd ac ar yr un pryd yn annifyr iawn. Efallai nad yw’r coed yn frodorol, ac efallai nad yw’r bensaerniaeth a’r tirffurfiau yn nodweddiadol o Gymru, ond mae’r iaith weledol hon a’r cyfeiriadau hyn o’n gwmpas ni bob dydd. Mae’r dramau llonydd hyn sy’n digwydd ar ffyrdd, mewn tai a choedwigoedd yn gyfarwydd i bob un ohonom, yn cyfleu bygythiad sy’n treiddio i’r mer. Ac eto mae rhyw gysur yn y peintiadau hefyd; yn nhywyllwch y goedwig mae golau llachar yn nrws ffrynt rhyw dy anghysbell. Ai lloches sydd yma?

Dim ond arlunydd gwir dalentog all weddnewid y cyffredin a chyflwyno’r elfen anweledol a chreu awyrgylch yn y fath fodd fel y gall siarad a ni am bethau tu hwnt i’n deall. Mae peintiadau Gareth yn gofyn cwestiynau dwys, ac meant en ein gwahodd ninnau i wneud yr un modd.

Meg Anthony
Rheolwr Oriel Myrddin

Gwefan: www.orielmyrddingallery.co.uk/

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|
|
cyswllt