oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Denis Curry Fishguard Art Society Rozanne hawksley

Cymdeithas Gelf Abergwaun: Sioe Nadolig
Dydd Llun 27 Tachwedd 2006 – Dydd Mercher 3 Ionawr 2007

Mae teitl yr arddangosfa hon, yn fy marn i, yn ddisgrifiad teg o’r hyn rwyf i a’m myfyrwyr yn ei wneud. Fy nod yw tywys myfyrwyr unigol ar eu taith bersonol drwy brofiad dysgu agored, hyblyg a chreadigol a fydd yn datblygu eu harddull unigolyddol. Bydd y myfyrwyr yn rhoi eu cysyniad ar waith drwy archwilio cynlluniau a samplo’n arbrofol er mwyn creu gweithiau celf gorffenedig.

Canlyniad hyn oll yw nad yw gwaith unrhyw ddau fyfyriwr yn debyg. Bydd y gwaith arddangos hwn mor amrywiol â’r unigolion eu hunain a cheir yma ddewis helaeth o destunau, ac yn eu plith fytholeg, tirluniau a ffasiwn. Ein defnydd cyffredin o edau a thema or-redol, sy’n ddim mwy na grym y pwyth, yw’r ddolen gyswllt sydd rhyngom. Bydd y mwyafrif yn gweithio mewn ffordd gyfoes, ond mae yna le o hyd i waith cwbl draddodiadol. I’r rhai hynny ohonom sy’n dal i weithio yn y dull hwnnw, mae’n bwysig bod y gwaith yn cael ei werthfawrogi ochr yn ochr â thecstilau archwiliadol - yn wir, mae’n pwysleisio’r Edau Esblygiadol.

*Mae croeso cynnes ar bob adeg i aelodau newydd a byddant yn cael eu hannog i gyfrannu eu syniadau personol er mwyn datblygu’r gymdeithas yn y dyfodol.  Os gwelwch yn dda, ymwelwch â’n gwefan www.fishguardartssociety.org.uk am fanylion pellach.

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|