oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Jill Nicholls mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery John Binet-Fauvel mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery   Kathy Williamsmwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery Bethan Ash mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery Ruth Harries mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery Sian Martin mwldan cardigan theatre cardigan cinema cardigan gallery Sue Hiley Harries

Mamwlad

28th February to 25th March 2004

Ffurfiwyd Celf Ffibr Cymru ym 1999 gyda'r nod o godi proffil celf ffibr gyfoes Gymreig ac i roi cyfleon i artistiaid arddangos yn eang gartref a thramor.

Mae'r aelodau wedi eu lleoli ar hyd a lled Cymru a thu draw i'r ffin i Henffordd, Caerloyw a hyd yn oed mor bell â Perth yn Awstralia.
Mae rhai ohonom yn Gymry, rhai wedi'n geni yng Nghymru a rhai wedi dewis byw a gweithio yng Nghymru. Mae rhai ohonom yn Gymry sy'n byw ac yn gweithio y tu allan i Gymru.
O'i gychwyn cyntaf, un o gryfderau'r grwp fu amrywiaeth y dulliau a'r cyfryngau a ddefnyddir gan ei aelodau a gobeithiwn bod hyn yn cael ei weld yn ein harddangosfa ddiweddaraf, Mamwlad ..
Dewiswyd y teitl oherwydd ei bosibiliadau hiraethus, yn dwyn i gof ddelweddau, synau ac atgofion o lefydd ac o bobl.
Nid oes unrhyw awgrym o senoffobia yn y gair na syniad o fod yn well na phawb. Yn hytrach, mae'n deffro rhyw hiraeth tyner am rywle lle teimlwn y mae ein gwreiddiau; nid y man lle cawsom ein geni o anghenraid, na hyd yn oed lle buom yn treulio ein plentyndod, ond yn hytrach rhywle sy'n wahanol i unrhyw le arall, rhywle y teimlwn ein bod yn perthyn yno.
Dyma'r lle yr ydym yn uniaethu ag ef.


Efallai nad yw Mamwlad, mewn gwirionedd, yn realiti o gwbl; yn hytrach, efallai mai crisialiad o'r hyn yr ydym yn dyheu amdano ydyw, efallai ei fod yn freuddwyd atafiaethol, na chaiff ei gwireddu fyth, o le lle mae diogelwch a sicrwydd yn ein hamgylchynu.
Efallai nad yw hyn yn wir i bawb. Gall Mamwlad fod yn fan sy'n cael ei chofio mewn ofn a dychryn, fan i ddianc oddi wrthi. Dylai'r rheiny ohonom sy'n teimlo bod Mamwlad yn lle cynnes a diogel o hyd fod yn ddiolchgar.
Mae ymateb y grwp i'r teitl wedi bod yn amrywiol, fel y gellid rhagweld.
Maent yn amrywio'n eang o falchder priodol ac optimistiaeth yn adfywiad a thwf yr iaith Gymraeg a symboliaeth gref draig Cymru parthed yr angen cyntefig sydd gennym am loches gudd, wedi ei chau i mewn ac ymhell o dwrf y byd lle gallwn ymlithro i gael diogelwch a chysur.
Atgofion plentyndod sydd wedi goruchafu i rai. Samplau o ddefnydd mewn patrymau a lliwiau sy'n dod i'r cof; y teimlad o gael eu lapio'n glud mewn gwely plu gyda chlytwaith drosto; llawenydd ymweliadau â gerddi Bodnant; fy atgofion hanner ofnus fy hun wedi eu britho â thameidiau o liw.


I rai, mae Mamwlad yn dwyn ystyr ehangach, a cheir ysbrydoliaeth o fannau ymhell o Gymru, megis Israel a'r Dwyrain Canol. Gall eraill hefyd ei gweld fel lle llai diriaethol, lle llai penodol ond un sydd, er hynny, yn deffro ymateb emosiynol cryf.
I rai, mae'n golygu'r ffordd yr ydym wedi ein gwau'n annatod gyda'r gorffennol, yn ddolen gyswllt o bobl a llefydd yr ydym yn rhan ohonynt. Yn yr un modd, gall darnau o ffotograffau ddatgloi atgofion am amserau, digwyddiadau a phobl o'r gorffennol. Unwaith eto, mae teimlad o fod yn perthyn, o fod yn rhan o gyfanwaith mwy.
Yn aml, fe welwn fod profiadau'n raddol yn cael eu cymathu, eu hidlo ac yn y diwedd, heb gyfeiriadau uniongyrchol, efallai y cânt eu mynegi yn ein gwaith, nes i'r patrymau, y lliwiau a'r delweddau sydd wedi bwydo ein dychymyg gael eu trawsffurfio, gyda'u tarddiad yn ganfyddadwy i'r gwneuthurwr yn unig.
Tirluniau eang, patrymau manwl ar garreg gron fechan o'r traeth, lleisiau, wynebau a lleisiau a ddiflannodd ers tro byd. Mae Mamwlad yn eu cwmpasu i gyd ym manylion bywyd yn ogystal ag yn y pethau mawr.

Jill Nicholls
Cadeirydd

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|