oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Photographic Portrait of Ian Robertson by Diane Walkey


Arlunwyr Gorllewin Cymru yn eu Stiwdios

Portreadau Ffotograffig gan Diane Walkey

Dydd Llun 9 Ionawr - Dydd Mercher 15 Chwefror 2006

Datganiad Personol

Mae’r ffotograffydd celfyddyd gain, Diane Walkey, yn cyflwyno cyfres o bortreadau sy’n darlunio arlunwyr Gorllewin Cymru yn eu stiwdios. Mae’r prosiect cyfredol, rhyfeddol hwn yn darlunio artistiaid sydd wedi hen ennill eu plwyf, unigolion fel John Knapp-Fisher a Philip Sutton RA yn ogystal ag arlunwyr iau megis Sophie Mafanwy Wellan. Drwy gyfrwng y prosiect hwn, mae Diane yn ceisio croniclo a dogfennu byd yr arlunydd yng Ngorllewin Cymru gan gyflwyno ar yr un pryd ddatganiad personol ac ymateb unigryw i’r testun. Tynnwyd yr holl luniau yn y sioe hon ar stoc o ffilm Fujicolor gyda chamera Mamiya fformat canolig.

Cafodd gwaith Diane Walkey ei arddangos yn helaeth, gan Y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn ogystal ag yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain, a hi oedd enillydd cystadleuaeth Ffotograffiaeth Genedlaethol yr Independent Energy Saving Trust yn 2003. Yn ogystal â ffotograffiaeth, mae Diane yn ymwneud â phaentio yn ogystal ag Addysg Gelf ac mae’n diwtor gyda Choleg Agored y Celfyddydau (sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol Agored).

Magwyd Diane ar Benrhyn Gwyr ger Abertawe a bu’n byw yn Sir Benfro ers pymtheg mlynedd. Mae’n gweithio mewn nifer o ddisgyblaethau, ac yn eu plith gwaith gyda phaent a phapur a bydd yn arddangos yn rheolaidd gyda Stiwdios Agored Aberteifi a Grwp Artistiaid Teifi.

Derbyniodd y prosiect hwn nawdd gan Gyngor Sir Penfro, Colab UK a Creative Mwldan Creadigidol.

Mwldan CreadigidolPembrokeshire County CouncilColab Digital Imaging

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|