 |
 |
 |
|
Pat Clarke
Further the Flight
|
Michael Edmonds
The Italian Job
|
Andrea Kelland
Into the Pool Corner
|
Cymdeithas Dyfrlliw Cymru
Pigmentau Gyda Dwr
Sadwrn 19 Ebrill – Sadwrn
24 Mai 2008

Ffurfiwyd y gymdeithas ym 1959 gan arlunwyr tebyg
eu hanian a oedd yn awyddus i gydweithio ac i hybu cyfrwng lluniau
dyfrlliw yng Nghymru. Mae eu hetifeddiaeth yn parhau wrth i’r
gymdeithas gynnal arddangosfeydd celf rheolaidd ac arwyddocaol
ar draws y Dywysogaeth.
Mae’r arddangosfeydd hyn yn amrywio o ran
cynnwys ac arddull, o dirluniau i bortreadau ac o’r golchiad
mwyaf llydan i’r manylyn mwyaf cain, ond yn ddiddorol ac
yn gyffrous bob tro, gan ddangos bywyd Cymru a’i golygfeydd
yn ei holl harddwch a’i lliw.
Ar hyn o bryd, mae gan y gymdeithas oddeutu deugain
o aelodau sy’n dod o nifer o wahanol gefndiroedd artistig
ac yn paentio mewn dyfrlliw a chyfryngau dŵr-hydawdd eraill
yn bennaf. Mae ei rhengoedd yn cynnwys arlunwyr proffesiynol
yn ogystal ag aelodau sy’n dod o gefndiroedd cymdeithasol
eraill, ac mae’n wir, yn ddi-os, bod y gymdeithas yn cynrychioli
rhai o’r arlunwyr mwyaf dychmygus a dylanwadol sy’n
byw yng Nghymru.
Mae’r Gymdeithas yn ymdrechu i gydgerdded â’r
byd celf bythol-gyfnewidiol yn nhermau arddull, technegau a chyfryngau
newydd, ac mae’n awyddus i recriwtio doniau newydd a thalentau
sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Ceir mwy o fanylion
ar ein gwefan www.watercolourwales.co.uk
Gwefan: www.watercolourwales.co.uk