oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan

Stiwdios Agored Aberteifi
Stiwdios Agored Aberteifi
Stiwdios Agored Aberteifi Stiwdios Agored Aberteifi

Stiwdios Agored Aberteifi CELF YM MIS AWST
Llun 9 Awst – Iau 2 Medi


Degfed Pen-Blwydd Stiwdios Agored Aberteifi ac
Arwethiant Elusennol o weithiau gwreiddiol

Mae Stiwdios Agored Aberteifi yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed gydag arddangosfa adolygol yn Oriel Mwldan, Aberteifi. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gweithiau gan nifer o’r artistiaid a fu’n cymryd rhan yn y stiwdios agored ar hyd y blynyddoedd ac mae’r digwyddiad min nos hwn yn gyfle i chi gyfarfod â’r artistiaid.

Bydd y noson hefyd yn cynnwys arddangosfa elusennol a fydd yn galluogi’r sawl sy’n hoff o gelf i brynu darn o waith gwreiddiol am bris penodol o £35.00. Cynhelir yr arwerthiant hwn ar Ddydd Sul 8ed Awst am 7.00yh yn y noson ragarddangos. Ymddiriedolaeth Hosbis Shalom House, Tyddewi, Sir Benfro yw’r elusen fydd yn cael ei chefnogi ac estynnir croeso cynnes i bawb.

Bydd y ddwy arddangosfa sy’n dwyn y teitl ‘Celf ym mis Awst’ yn rhoi cipolwg i’r gwylwyr ar waith yr artistiaid ac yn cynnig cyfle i ymweld â stiwdios agored yr artistiaid yn ddiweddarach yn y mis, dros gyfnod Gwyl y Banc, o Ddydd Gwener 27 hyd Ddydd Mawrth 31 Awst; amserau agor: 11.00yb – 6.00yh www.cardiganopenstudios.co.uk

 

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|