Stiwdios Agored Aberteifi
Arddangosfa Enghreiffti
Dydd Llun 31 Gorffennaf – Dydd Mercher 6 Medi 2006

Mae Stiwdios Agored Aberteifi, sydd bellach yn bod ers deuddeg mlynedd, wedi rhoi cyfle i gannoedd o ymwelwyr ddilyn llwybr celf drwy un o ardaloedd harddaf Ynysoedd Prydain a chael cipolwg ar y rhanbarth drwy lygaid creadigol y trigolion lleol.
Eleni, mae 32 o Arlunwyr yn agor 28 o leoliadau gwaith i’r cyhoedd. Mae’r Arddangosfa Enghreifftiol yn cynnig rhagflas o waith pob un o’r arlunwyr. Gellir ymweld â’r stiwdios yn ystod y cyfnod rhwng Dydd Sadwrn 19eg a Dydd Llun 28ain Awst 11yb hyd 6yh. Cewch gyfarfod a siarad â’r arlunwyr a’u gweld wrth eu gwaith a chael mewnwelediad i’w dull o fedwl.
Bydd pob stiwdio y byddwch yn ymweld â hi yn brofiad unigryw. Mae pob un ohonynt mewn lleoliad cyfareddol, o lethrau bryniog ac agored mynyddoedd y Preselau i’r pentrefi pysgota cartrefol a threftadaeth odidog tref Aberteifi a adferwyd yn ddiweddar.
www.cardiganopenstudios.co.uk
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|