Arddangosfa Flynyddol Myfyrwyr
Coleg Ceredigion
Gwneud Dodrefn, Adfer Dodrefn, Ffasiwn a Thecstilau, Sgiliau Byw’n
Annibynnol
Dydd Mercher 4 Mehefin – Dydd Iau 26 Mehefin 2008
Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi treulio’r
flwyddyn gyfan yn creu darnau o waith a dyma’n cyfle ni i
gael cipolwg ar ddetholiad o’r gweithiau hynny. Gellir rhannu’r
gwaith sydd i’w weld yma i ddau ddosbarth arddangos, gan
ddechrau gyda dyluniadau dodrefn ac adfer dodrefn gan symud ymlaen
at gelf a gwaith cynllunio ffasiwn a thecstilau. Yn ychwanegol
at hyn, bydd y coleg hefyd yn arddangos cymysgedd creadigol o waith
gan fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol.
Myfyrwyr fydd yn arolygu’r arddangosfa
yn ystod yr wythnosau a byddant ar gael i drafod eu gwaith ac i
sôn am eu cwrs. Dyma gyfle rhagorol i ddarganfod goreuon
Coleg Ceredigion yn Aberteifi.
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|