oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Coleg Ceredigion Cardigan College Coleg Ceredigion Art Coleg Ceredigion Arddangosfa Flynyddol o Ddodrefn

Coleg Ceredigion
Arddangosfa Flynyddol o Ddodrefn
6ed – 14fed o Fehefin 2007

Tystysgrif City and Guilds Mewn Cynhyrchu Dodrefn Gwneud a Gosod Dodrefn Ynghyd  Lefelau 1, 2 a 3

Mae’r arddangosfa yn cyflwyno’r gwaith dawnus caiff ei greu gan fyfyrwyr lefel 1, 2 a 3 yn ystod rhaglen astudio flwyddyn o hyd. Mae’r dodrefn wedi eu creu â llaw a gan ddefnyddio peiriannau gwaith coed

Tystysgrif City and Guilds Mewn Gwaith Pren Wedi Gynhyrchu gan Peiriant yn Unig Lefel 2

Mae’r gwaith caiff ei arddangos yn dangos sut gall sgiliau atgyweirio adfywio darnau dodrefn sydd angen ychydig o ofal tyner. Mae hefyd yn amlygu gwybodaeth a defnydd y myfyrwyr o’r deunyddiau sydd eu hangen i adfer darn dodrefn at ei gyflwr
gwreiddiol

Arddangosfa Celf a Dylunio

21ain – 28ain Mehefin 2007

Mae gwaith y myfyrwyr eleni yn adlewyrchu’r broses greadigol maent wedi mynd i’r afael â hi mewn amrywiaeth o brosiectau cyffrous. Mae hyn yn cynnwys  peintiadau, tecstilau, dylunio 3D a ffotograffiaeth draddodiadol a digidol. Mae’r gwaith caiff ei arddangos yma yn dod o gyrsiau’r ail flwyddyn Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Celfyddyd Gain, Diploma Cyntaf mewn Celf a Dylunio, Tystysgrif Gychwynnol BTEC mewn Ffasiwn a TGAU Celf.

ILS (Independent Living Skills)
21ain – 28ain Mehefin 2007

Gwaith wedi ei gwblhau gan grŵp myfyrwyr sydd ag anhawsterau dysgu. Maent yn dod i Goleg Ceredigion am 16 awr yr wythnos ac yn astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Celf a Chrefft.  Mae’r meysydd caiff eu harddangos yn cynnwys mosäig, gwneud printiau, collage, peintio gwydr a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â chelf.

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|