oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


CHRISTINE KINSEY CHRISTINE KINSEY CHRISTINE KINSEY

CHRISTINE KINSEY

YMDDIDDAN
Lluniau ac Darluniau
Dydd Sadwrn 8 Mawrth - Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2008

YMDDIDDAN   Arddangosfa deithiol o luniau a darluniau.
Initiated by Newport Museum and Art Gallery
Initiated by Newport Museum and Art Gallery

Artist yw Christine Kinsey, sy’n ysgrifennu ac yn integreiddio geiriau i broses greadigol ei hiaith weledol. Mae ‘ymddiddan’ rhwng y ddelwedd a’r gair wedi bod yn ganolog i ddatblygu’r lluniau a’r darluniau hyn, sy’n cofnodi llais sy’n archwilio’r berthynas rhwng byd mewnol, byd allanol ac arallfydolrwydd. Mae’r haenau dylanwadol sydd wedi esblygu yn sgil tyfu’n ferch yng nghymoedd diwydiannol de ddwyrain Cymru, ac ailasesu’r canfyddiad a’r darluniad o ferched mewn diwylliant Cristnogol Geltaidd yn ffurfio cefnlen, ac mae pob cymeriad yn chwarae rôl yn erbyn y gefnlen honno. Mae’r thema amgáu a rhyddhau yn gyfryngau sy’n mynegi’r llinell naratif gan ddatgelu’r cymeriadau’n parhau i chwilio am ffordd i bontio’r bwlch rhwng cymdeithas secwlar a bywyd mewnol ysbrydol. Mae geiriau’r artist / awdur David Jones a’r bardd R.S. Thomas, y mae eu delweddaeth yn archwilio’r rhyngwyneb rhwng y bydol, yr ysbryd a’r dychymyg wedi’u cydblethu i linell naratif y lluniau a’r darluniau diweddar hyn.

Roedd Christine Kinsey yn Gyd-sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Artistig Gweithdai a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, yn Gyd-sylfaenydd Cymdeithas Arlunwyr a Dylunwyr Cymru, Ymgynghorydd Artistig i Gyngor Dinas Caerdydd ar ailddatblygu Canol Dinas Caerdydd rhwng 1968 - 1976; yna gweithiodd fel artist ac athrawes ar yr Ynys Iseldiraidd/Ffrengig St Maarten, y Caribî. Ers iddi ddychwelyd i Gymru ym 1980 mae wedi byw a gweithio yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae hi wedi cael un arddangosfa deithiol unigol genedlaethol, a thair arddangosfa deithiol unigol ryngwladol, ac mae wedi arddangos a gyda darluniau mewn casgliadau yng Ngwlad Belg, y Caribî, Catalonia, Iwerddon, Lloegr, Lithwania, Yr Alban, Y Swistir, Cymru a’r Unol Daleithiau. Mae cynrychiolaeth o’i gwaith yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Oriel Gelf ac Amgueddfa Glyn Vivian, Abertawe; Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru, Caerdydd. Mae wedi ennill nifer o wobrau. Dangoswyd ei darluniau ym META, sef arddangosfa deithiol a gychwynnwyd gan Christine Kinsey ac yn dangos gwaith ar y cyd gan feirdd ac arlunwyr, a ddangoswyd mewn pum lle gan gynnwys Oriel Arka, Vilnius, Lithwania ar y cyd â’r Poetry Spring Festival 2002. Cafodd darluniau o’r gyfres ‘Llais’ eu harddangos yn y Tŷ Opera, Vilnius yn 2000, ac yn Oriel Sofa, Druskininkai, Lithwania mewn partneriaeth â Menna Elfyn fel rhan o  Ŵyl Gelfyddydau Poetic Fall 2003. Mae’n aelod o Grŵp 56.  Cafodd y llyfr ‘Imaging the Imagination. An exploration of the relationship between the image and the word in the art of Wales’ a gychwynnodd ac a olygodd ar y cyd â Dr Ceridwen Lloyd - Morgan, ei gyhoeddi yn 2005 gan Wasg Gomer. Mae hi’n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus i’r Gyfadran Celf a  Dylunio, Athrofa Abertawe, Prifysgol Cymru, Abertawe. 

Gwefan: www.artcymru.co.uk  
E-bost: christinekinsey@skymarket.org

 

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|
|
cyswllt