oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Christine Benson

Christine Benson
Yr Edau Esblygiadol

Dydd Llun 16 Hydref – Dydd Mercher 22 Tachwedd 2006

Mae teitl yr arddangosfa hon, yn fy marn i, yn ddisgrifiad teg o’r hyn rwyf i a’m myfyrwyr yn ei wneud. Fy nod yw tywys myfyrwyr unigol ar eu taith bersonol drwy brofiad dysgu agored, hyblyg a chreadigol a fydd yn datblygu eu harddull unigolyddol. Bydd y myfyrwyr yn rhoi eu cysyniad ar waith drwy archwilio cynlluniau a samplo’n arbrofol er mwyn creu gweithiau celf gorffenedig.

Canlyniad hyn oll yw nad yw gwaith unrhyw ddau fyfyriwr yn debyg. Bydd y gwaith arddangos hwn mor amrywiol â’r unigolion eu hunain a cheir yma ddewis helaeth o destunau, ac yn eu plith fytholeg, tirluniau a ffasiwn. Ein defnydd cyffredin o edau a thema or-redol, sy’n ddim mwy na grym y pwyth, yw’r ddolen gyswllt sydd rhyngom. Bydd y mwyafrif yn gweithio mewn ffordd gyfoes, ond mae yna le o hyd i waith cwbl draddodiadol. I’r rhai hynny ohonom sy’n dal i weithio yn y dull hwnnw, mae’n bwysig bod y gwaith yn cael ei werthfawrogi ochr yn ochr â thecstilau archwiliadol - yn wir, mae’n pwysleisio’r Edau Esblygiadol.

Datganiad Personol


"Mae fy ngwaith yn deillio o’m mewn; rhaid bod cyswllt emosiynol rhyngof ag unrhyw destun cyn y gallaf ddechrau ar ddarn o waith.

Daw fy ysbrydoliaeth o’r canlynol: ennyd amser, digwyddiad, cerddoriaeth, geiriau, tirlun neu bensaernïaeth, a’r môr bob tro - mae’n gysonyn yn f’achos i. Fel arfer, ceir cyfuniad o nifer o’r uchod. Mae cerddoriaeth yn pennu’r rhythm neu’r harmoni, weithiau defnyddir symbolaeth mewn delwedd neu liw, nad yw’n amlwg i’r gwyliwr bob tro - mae’n bwysig caniatáu lle iddynt edrych ar neu ddarllen fy ngwaith fel y mynnant.

Bydd y defnyddiau a ddefnyddir gennyf yn adlewyrchu’r emosiynau – sensitif, weithiau’n eithaf bregus – ynghyd â’r lliwiau bob tro, a’m dull o’u defnyddio.

Bydd haenau o ffabrig, ffibrau ac edeifion - a’r rhan fwyaf ohonynt yn sidanau wedi’u llifo â llaw - hefyd yn cael eu gweithio mor ddwys fel bod y pwyth yn dod yn rhan annatod o’r ffabrig cyfan. Rheswm symbolaidd sydd dros hwn hefyd - mae’r “defnyddiau” unigol yn denau, ansylweddol, ond o’u gweithio gyda’i gilydd, fel y byddaf i’n gwneud, mae yma gadernid sy’n eu galluogi i sefyll ar eu pennau eu hunain.

Mewn gwrthgyferbyniad, mae’r delweddau unlliw yn rhai minimal”.

Mae nifer o’r myfyrwyr hefyd yn aelodau o Urdd y Brodwyr sy’n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2006. (Ar adeg ysgrifennu hwn, rwyf yn gadeirydd cangen Sir Benfro).

Rydym hefyd yn ymwybodol bod Tapestri Glaniad y Ffrancod yn symud gam yn nes at sicrhau cartref parhaol yn Abergwaun.

Mae’r rhain i gyd yn gysylltiadau lleol pwysig a all, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, wneud cyfraniad dylanwadol i’r gwaith a wneir gan unigolion, a bydd pob un ohonynt, gobeithio, yn tynnu sylw at y safon a’r diddordeb sy’n bod mewn tecstilau yn y rhan hon o Gymru.

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|