oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


CHARLOTTE SWANN

CHARLOTTE SWANN

Stratwm Gwreiddiol - Oriel Isaf

Dyddllun 2 Mai - Dyddiau 2 Mehefin 2005


Charlotte Swann
Datganiad am yr Arddangosfa

Fy nod wrth greu fy nhirluniau yw cyfleu fy nheimladau o edmygaeth a pharchedig ofn at amgylchedd byd natur, yn ogystal â chyfeirio’n gynnil at yr angen dybryd am warchod yr amgylchedd hwnnw. Mae fy ngwaith yn archwilio’r colli cyswllt a’r ymlyniad wrth yr amgylchfyd naturiol sydd, yn fy marn i, yn cynnig rhywfaint o esboniad pam ein bod yn ymelwa arno ac yn ei ddifrodi y tu hwnt i’w adfer. Mae fy mhaentiadau yn ffrwyth profiad a chyswllt â’r amgylchfyd naturiol a grëwyd drwy’r arfer o gerdded bob dydd mewn lle penodol dros gyfnod o amser, gan dystio dro ar ôl tro i effeithiau golau, tymhorau a hwyliau personol sy’n newid yn barhaus ar bob golwg a phob manylyn o’r dirwedd. O ganlyniad, prif ffynhonnell fy nhestun yw’r Mynydd Du yn Ne Cymru, tirwedd ardal fy mebyd yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi.

Byddaf yn llunio fy mhaentiadau, sydd yn aml yn fawr eu graddfa a’u cwmpas, yn y stiwdio, gan ddefnyddio casgliad helaeth o frasluniau, nodiadau gweledol a chyfeiriadau ffotograffig. Mae fy mhroses waith yn ymwneud â datblygu ‘archaeoleg’ y llun, lle bydd haenau o fanylion yn cael eu harddodi mewn ymdoddiad o ffurfiau disgrifiadol a haniaethol. Mae fy nhechneg yn cynnwys paentio, lluniadu, cripio, diferu, arllwys, rhwbio, torri a phastio, gan adael i ddefnyddiau sy’n cynnwys bitwmen a phridd greu eu siapau a’u patrymau organig eu hunain yn aml.

Mae harddwch yn elfen sy’n rhan annatod o’m gwaith, o ran ei gallu i ddenu a dal sylw’r gynulleidfa yn ogystal â’i gallu i ddatblygu ymdeimlad o barchedig ofn yn y gwyliwr tuag at y testun a gyflwynir. Yn hyn o beth, mae nodweddion esthetig y llinell a dynnwyd yr un mor bwysig yn fy ngwaith ag yw trawiadau’r brwsh paent.

“Mae gwaith Charlotte Swann yn cyfuno amlinelliad o’r dirwedd wreiddiol, anweladwy bron, gyda haenau o weithgarwch gwyllt. Mae’n gyfuniad rhagorol - llonyddwch ac aflonyddwch i gyd ar yr un pryd. Bydd yn gwneud i ni edrych ar fynyddoedd Cymru mewn ffordd gwbl wahanol.”

Yr Athro Stuart Clarke

“Mae Charlotte Swann, yn ddi-os, yn cofnodi’n ysgrifenedig lawn gymaint â darlunio’i phrofiad o le mewn datganiadau caligraffig ysgubol.”

Aidan Dunne, The Irish Times

Hefyd yn arddangos yn Oriel Mwldan Uchaf - Ifan Bates - Gothig Canoldirol

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|