Cymdeithas Gelf Aberteifi
Sioe
Haf 2008
5 Gorffennaf – 2 Awst 2008
 
Hanes
Sefydlwyd Cymdeithas Gelf Aberteifi ar ddechrau’r chwedegau
gan griw o unigolion brwd, dan arweiniad Francis Mason, oedd yn
awyddus i drefnu arddangosfa gelf ddwywaith y flwyddyn yn y dref
ar gyfer pobl o bob gallu, yn amaturiaid a phroffesiynol fel ei
gilydd, a ddymunai arddangos eu gwaith. Cynhaliwyd y traddodiad
hwn ar hyd y blynyddoedd ac mae Cymdeithas Gelf Aberteifi wedi
cyflwyno arddangosfeydd mewn nifer o wahanol leoliadau gan gynnwys
ysgol Eglwys y Santes Fair, siop yn gwerthu manion gwnïo a
chaban a ddefnyddid ar un adeg gan y sgowtiaid.
Cychwynnwyd ar brosiect i drawsnewid lladd-dy segur
y dref yn theatr gymunedol gan Theatr Aberteifi, grwp drama amatur
y dref. Roedd hwn yn gyfle rhagorol i aelodau Cymdeithas Gelf Aberteifi
a dechreuodd y grwp ymwneud â’r fenter ac aeth ati
i ddarparu nawdd ar gyfer ardal arddangos oddi mewn i’r adeilad.
Ym 1995, lansiwyd Prosiect Datblygu uchelgeisiol
er mwyn trawsnewid ac ymestyn y theatr bresennol yn oedfan fwy
o ran maint. Lansiodd Theatr Mwldan gyfleuster arall, sef oriel
newydd ~ Oriel Mwldan ~ yn 2004. Fe’i lluniwyd er mwyn gallu
cynnig rhaglen o arddangosfeydd proffesiynol, teithiol a chymunedol.
Bob blwyddyn, caiff Cymdeithas Gelf Aberteifi ei
chynnwys yn rhaglen Oriel Mwldan, a hynny i gydnabod cefnogaeth
y gymdeithas, ei hymrwymiad i’r gymuned ac i’r celfyddydau
gweledol. Ar hyn o bryd, mae amrywiaeth gynyddol yn nodweddu aelodaeth
y gymdeithas ac mae hyn yn amlygu’r llwyddiant artistig sy’n
bosibl oddi mewn i’r gymuned leol.
Mae’r gymdeithas yn croesawu aelodau newydd
ar sail egalitaraidd a heb roi ystyriaeth i allu technegol. Mae
ganddi raglen gynhwysfawr o sgyrsiau, arddangosiadau a gweithdai
ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac mae cefnogaeth
galonogol wrth law ar bob adeg. Mae sbectrwm eang o arddulliau
a thechnegau artistig o’r fath yn addo rhywbeth fydd o ddiddordeb
i bawb.

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|