oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


Cymdeithas Gelf Aberteifi

Cymdeithas Gelf Aberteifi

Soe Haf 2007

18.08.07 - 15.09.07

Cardigan Art Society 2007Cardigan Art Society - Theatr Mwldan

Hanes

Sefydlwyd Cymdeithas Gelf Aberteifi yn y chwedegau cynnar gan griw o unigolion brwdfrydig a oedd yn awyddus i drefnu arddangosfa gelf bob chwe mis yn y dref ar gyfer pobl o bob gallu a oedd yn dymuno arddangos eu gwaith.

Un o’i sylfaenwyr oedd Francis Mason, Maer Aberteifi bryd hynny ac roedd hi o’r farn y dylai fod gan unrhyw un oedd yn awyddus i arddangos ei waith, waeth beth fo safon y gwaith hwnnw, yr hawl i wneud hynny. Dyma bolisi’r gymdeithas hyd heddiw.

Cynhaliwyd yr arddangosfeydd cyntaf yn ysgol Eglwys y Santes Fair, yna yn siop ddillad Bon Marche ac yn olaf mewn caban a fu unwaith yn gartref i’r sgowtiaid a brynwyd ar gyfer ei ddefnyddio gan y gymdeithas gan ddau o’i haelodau. Nid oedd y safle arddangos yn ddelfrydol o bell ffordd.

Roedd Aneurin Jones, sydd bellach yn arlunydd enwog, hefyd yn un o’r sylfaenwyr. Ef oedd y cadeirydd cyntaf a chafodd ei ethol yn llywydd yn ddiweddarach. Mae’n parhau yn y swydd honno ac yn gefn mawr i’r gymdeithas.

Ym mlynyddoedd cynnar Theatr Mwldan, chwaraeodd y gymdeithas ran bwysig yn nhwf y theatr a bu’n gyfrifol am ddarparu’r holl gyfarpar ar gyfer yr ardal a neilltuwyd ar gyfer arddangosfeydd celf. Bu’r Aelodau hefyd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o lunio cryn dipyn o gyfarpar y theatr. O ganlyniad, enillodd Cymdeithas Gelf Aberteifi yr hawl i gynnal dwy arddangosfa bob blwyddyn yn y theatr.

Yn ystod yr wythdegau, ehangodd y gymdeithas dan gadeiryddiaeth Rhyl Boyd-Wallis, a dechreuwyd cynnwys anerchiadau misol gan siaradwyr gwadd, gweithdai a gwibdeithiau.

Mae’r cyswllt agos rhwng Cymdeithas Gelf Aberteifi a’r theatr yn parhau, er nad yw’r berthynas rhyngom yr yn mor glos ag y bu yn y gorffennol, ac rydym wrth ein bodd i gael cynnal ein harddangosfa yn yr oriel arddangos newydd, ragorach hon.

Cardigan Art Society - Marvin HughesHellen Elliot - Cardigan Art Society 2007

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|