Cymdeithas Gelf Aberteifi
Arddangosfa Haf 2005
Dyddllun 1 Awst - Dyddmercher 24 Awst 2005
Hanes
Sefydlwyd Cymdeithas Gelf Aberteifi yn y chwedegau cynnar gan
griw o unigolion brwdfrydig a oedd yn awyddus i drefnu arddangosfa
gelf bob chwe mis yn y dref ar gyfer pobl o bob gallu a oedd yn
dymuno arddangos eu gwaith.
Un o’i sylfaenwyr oedd Francis Mason, Maer Aberteifi bryd
hynny ac roedd hi o’r farn y dylai fod gan unrhyw un oedd
yn awyddus i arddangos ei waith, waeth beth fo safon y gwaith hwnnw,
yr hawl i wneud hynny. Dyma bolisi’r gymdeithas hyd heddiw.
Cynhaliwyd yr arddangosfeydd cyntaf yn ysgol Eglwys y Santes Fair,
yna yn siop ddillad Bon Marche ac yn olaf mewn caban a fu unwaith
yn gartref i’r sgowtiaid a brynwyd ar gyfer ei ddefnyddio
gan y gymdeithas gan ddau o’i haelodau. Nid oedd y safle arddangos
yn ddelfrydol o bell ffordd.
Roedd Aneurin Jones, sydd bellach yn arlunydd enwog, hefyd yn un
o’r sylfaenwyr. Ef oedd y cadeirydd cyntaf a chafodd ei ethol
yn llywydd yn ddiweddarach. Mae’n parhau yn y swydd honno
ac yn gefn mawr i’r gymdeithas.
Ym mlynyddoedd cynnar Theatr Mwldan, chwaraeodd y gymdeithas ran
bwysig yn nhwf y theatr a bu’n gyfrifol am ddarparu’r
holl gyfarpar ar gyfer yr ardal a neilltuwyd ar gyfer arddangosfeydd
celf. Bu’r Aelodau hefyd yn cynorthwyo gyda’r gwaith
o lunio cryn dipyn o gyfarpar y theatr. O ganlyniad, enillodd Cymdeithas
Gelf Aberteifi yr hawl i gynnal dwy arddangosfa bob blwyddyn yn
y theatr.
Yn ystod yr wythdegau, ehangodd y gymdeithas dan gadeiryddiaeth
Rhyl Boyd-Wallis, a dechreuwyd cynnwys anerchiadau misol gan siaradwyr
gwadd, gweithdai a gwibdeithiau.
Mae’r cyswllt agos rhwng Cymdeithas Gelf Aberteifi a’r
theatr yn parhau, er nad yw’r berthynas rhyngom yr yn mor
glos ag y bu yn y gorffennol, ac rydym wrth ein bodd i gael cynnal
ein harddangosfa yn yr oriel arddangos newydd, ragorach hon.
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|