ARGRAFFWYR ABERYSTWYTH
Llun 20 Chwefror – Mercher 22 Mawrth 2006
Sefydlwyd Argraffwyr Aberystwyth Printmakers gan grŵp bach o arlunwyr
sy'n defnyddio amrywiaeth o dechnegau argraffu yn eu gwaith, gan
gynnwys ysgythriad, lithograffi, sgrin-brintio, ysgythriad pren,
torlun pren a thorlun leino. Prif nod y grwp yw hybu'r grefft o
wneud printiau drwy gyfres o sgyrsiau, darlithoedd, arddangosiadau
ac arddangosfeydd o'u gwaith. Mae'r sioe yn Oriel Mwldan yn dilyn
arddangosfeydd llwyddiannus yn Oriel Cambria, Tregaron ac yng Nghanolfan
y Celfyddydau, Aberystwyth yn 2005.
Nod tymor hir y grŵp yw sefydlu gweithdy argraffu
mynediad-agored o safon fyd-eang yn Aberystwyth a fydd yn darparu
cyfleusterau cyflawn ar gyfer gwneud printiau i'w aelodau. Ar hyn
o bryd, mae'r grwp yn defnyddio gweithdy bychan sy'n gysylltiedig
â Chanolfan Gorwelion ar Ffordd Llanbadarn yn Aberystwyth
ac o fis Ionawr 2006 bydd y lle hwn ar agor yn rheolaidd i unrhyw
un sydd â diddordeb mewn ysgythru a phrintio cerfweddol. Hyd
yma, mae gan y grŵp oddeutu 35 o aelodau. Os hoffech ddod
yn aelod, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r ysgrifennydd,
Robert Carpenter ar 01545 570 065 neu Paul Croft yn puc@aber.ac.uk
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|