oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan

 

Area 43 Cardigan

Calon Tachus - Oriel Isaf

Dyddllun Hydref 4 - Dyddiau 22 Hydref 2004


GWASANAETH GWYBODAETH A CHEFNOGAETH I IEUENCTID

Mae Prosiect Ieuenctid Aberteifi, sy’n cael ei adnabod wrth yr enw Area43 - Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth, yn elusen gofrestredig a sefydlwyd er mwyn cynnig cymorth a chefnogaeth i holl ieuenctid siroedd gwledig Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin. Caiff y prosiect ei fonitro gan bwyllgor rheoli gwirfoddol a sefydlwyd ym 1996 ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol. Agorwyd Ardal/Area 43 yn llawn-amser ym mis Medi 1997 ac erbyn hyn mae ganddo dri gweithiwr prosiect llawn-amser a thri sy’n rhan-amser, yn ogystal â thîm o rhwng 25-30 o wirfoddolwyr.

Mae’r Prosiect wedi ceisio ymateb mewn ffordd gadarnhaol i anghenion arbenigol y grwp oedran 16-25. Bwriad yr athroniaeth sy’n sail iddo yw cynorthwyo pobl ifanc i feithrin hunan-barch a dull cadarnhaol o ystyried eu bywydau a’u lle mewn cymdeithas, drwy ddarparu cyfleoedd iddyn nhw gael blas ar brofiadau uniongyrchol. Mae hefyd yn darparu lle i gyfarfod a chymdeithasu gyda’u grwp cyfoedion yn ogystal â modelau rôl o blith oedolion fydd yn eu hannog i gymryd rhan yn broses ddysgu a’r strwythurau llunio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, bywydau’r rhai o’u cwmpas a’r gymuned y maen nhw’n rhan ohoni. Y gobaith yw y bydd hyn yn eu galluogi i ddeall ac i weithredu ar y materion hynny. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfarwyddo a mentora i bob oed. Rydym hefyd wedi ymrwymo i lunio cysylltiadau a chynrychioli anghenion a dyheadau pobl ifanc yn y gymuned, yn ogystal ag mewn cyswllt â’r gwahanol asiantaethau a’r darparwyr gwasanaethau sy’n gweithio ym maes gwaith ieuenctid.

Prynwyd ac adnewyddwyd ein hadeilad yn 1 Pont y Cleifion yn benodol ar gyfer creu’r Ganolfan Galw Heibio a Gwybodaeth. Rydym ar ganol prosiect adeiladu ar hyn o bryd (sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol) er mwyn cynyddu maint ein hadeilad a datblygu’r amrediad o wasanaethau sy’n cael eu cynnig gennym.

Fel elusen gofrestredig annibynnol, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth ac ewyllys da ein cymuned leol ynghyd â gwirfoddolwyr, cyrff ariannu, busnesau, sefydliadau hyfforddi, cynghorau lleol a sirol, sefydliadau addysgol a’r holl bobl hynny sydd â diddordeb mewn materion sy’n ymwneud ag ieuenctid. Rydym yn awyddus i annog cyfathrebu a rhwydweithio, ac felly, mae gan y prosiect bolisi drws agored a byddwn yn croesawu’r cyfle i siarad am ein gwaith ac i ddatblygu cydberthnasau rhagweithiol.

Hefyd yn arddangos yn Mwldan Uchaf - Karen Deeley - Astudiaethau mewn Arian a Halen

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|