oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan

Ute Gewenigerbw | Anna Bjerger
R S Bell by Anna Bjerger

ANNA BJERGER
Angylion yn Eich Cwrw

Ebrill 26 - Mai 21 2004

Mae’n bosibl ystyried ‘Angylion yn Eich Cwrw’ fel portread o arfer yr artist yn ystod y deunaw mis diwethaf, un sy’n canolbwyntio ar ei chyflwyniadau o grwpiau o baentiadau thematig, fel ei chyfres ddiweddar o weithiau a ysbrydolwyd gan The Guinness Book of Records.

Mae’r paentiadau hyn yn rhyfeddol o gyfarwydd yr olwg, fel pe baent yn llanw rhyw gof torfol neu gronfa emosiynol y gall pob un ohonom dynnu oddi arni pan fydd angen. Maen nhw’n tarddu o gannoedd o luniau y daeth yr artist ar eu traws – delweddau hawdd i’w hadnabod o gipluniau gwyliau, pobl mewn partïon, lluniau o lyfrau sydd wedi eu taflu o’r neilltu; grwpiau teuluol, enillwyr balch, a lluniau o bobl gyffredin yn gwneud pethau cwbl anghyffredin. Maen nhw’n llawn atgofion ac olion o fywydau fu’n cael eu byw, gan barhau yn y pellter, eto, ar unwaith yn gwbl hygyrch.

Daethpwyd o hyd i deitl chwithig o ordeimladwy yr arddangosfa ‘Angylion yn Eich Cwrw’ hefyd mewn llyfr nad oedd ar neb ei angen mewn siop elusen. Gellir ystyried y geiriau yn rhai slic a digrif, ond maen nhw hefyd yn anobeithiol a digalon. Yn y pellter hwn rhwng dau begwn sy’n dwyn perthynas â’i gilydd mae creadigaethau Bjerger yn gweithredu. Mae ganddi allu di-ildio i fwyhau elfen anhysbys y delweddau canfyddedig hyn a’u troi yn gasgliad cymhleth o baentiadau sy’n llwyddo i gynnwys gorfoledd a dathlu ochr yn ochr â thristwch a digalondid.

Daw Anna Bjerger yn wreiddiol o Sweden ac mae bellach yn byw yn Llundain. Ers graddio o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2001 mae hi wedi arddangos ei gwaith mewn arddangosfeydd unigol yn MW Projects, Llundain ac yng Nghymdeithas Atistiaid Lithuania. Ymhlith ei harddangosfeydd ar y cyd mae Draw to be Alive, Oriel Hales, Llundain; Love, dan guraduriaeth David Risley yn 14 Wharf Road, Llundain; a Immediate Gesture yn Lombard-Fried Fine Arts, Efrog Newydd.

Mae ‘Angylion yn Eich Cwrw’ yn arddangosfa deithiol Chapter a bydd yn ymweld â’r Pump House Gallery, Llundain rhwng 4 Awst a 26 Medi 2004.

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones


|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|