Angie Teiger
Adolygol
Dyddllun 7 Mawrth - Dyddmercher 30 Mawrth 2005
Angie Teiger
Datganiad Personol
Teithio a myfyrio fu’n gyfrifol am gryn dipyn o’r ysbrydoliaeth
a roddodd fod i’m gwaith yn ystod y degawd a aeth heibio.
Bûm ar nifer o deithiau yn ymweld â diwylliannau eraill
naill ai yn sgil gwahoddiad i arddangos (Uzbekistan 1995, India
a Siapan 1997, Ourense, Galicia, Gogledd Sbaen 2003) neu’n
mynychu cyrsiau preswyl (Fondacion Valparaiso, Mojacar, Andalucia,
Sbaen 2004).
Weithiau, byddaf yn mynd gyda’r syniad o archwilio f’amgylchedd
newydd; dro arall byddaf yn archwilio syniadau a damcaniaethau y
deuthum ar eu traws mewn deunydd darllen. Yn ystod f’arhosiad
yn Kerala, lle bûm yn arddangos fy ngwaith euthum ati i archwilio’r
syniadau a gofnodwyd gan George Borrows (1803-81) yn ei weithiau
lle mae’r awdur a’r teithiwr hwnnw o Loegr yn awgrymu
mai o Dde’r India y daeth y Cymry’n wreiddiol.
Yn Uzbekistan, daeth y syniad o Ganolbarth Asia fel gwlad lle tarddodd
y Diaspora Westwards Celtaidd yn sbardun i arddangosfa a gynhaliwyd
yn Oriel Mwldan ym 1996, arddangosfa a aeth oddi yno ar daith i
Lundain.
Cyn mynd ar fy nhaith i Mojacar y llynedd, darllenais fod Pobl
y Biceri (cred rhai mai nhw fu’n gyfrifol am adeiladu ail
ran Côr y Cewri) wedi dod yn wreiddiol o Orynys Iberia, ar
begwn eithaf de-orllewin cyfandir Ewrop. Daeth tystiolaeth o’u
taith i’r amlwg mewn cloddfa yng Nghôr y Cewri.
Mae’r arddangosfa adolygol hon yn rhoi sylw i’m gwaith
dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Ymhlith fy ngweithiau ceir
paentiadau a thecstilau a ysbrydolwyd gan ysbryd fy amgylchfyd,
naill ai yn fy stiwdio yn Llangrannog, neu’n ystod fy ymchwil
a’m hanturiaethau mewn gwledydd tramor.
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|