Angharad Taris
Ymlyniad - Oriel Isaf
1 Mai - 31 Mai 2006
Title: Ymlyniad
Datganiad yr Artist
Drwy archwilio’n bersonol ddefnyddiau cyfarwydd o’m
hamgylchfyd y daeth y broses greadigol o ddatblygu fy nghorff diweddaraf
o waith i fod.
Datblygodd y corff newydd hwn o waith o syniadau sy’n ymestyn
dros y degawd diwethaf ac fe’i porthwyd hefyd gan wibdaith
Arts International i’r Ariannin yn 2004 yn ogystal ē’r
cydweithio fu rhyngof ē beirdd, ymarferwyr dawns ac artistiaid
perfformio. Yn ystod y daith roedd y gydberthynas rhwng pobl yn
destun a’m diddorai ac mae hynny wedi parhau.
Oddi mewn i’r lluniadau a’r cyfosodiadau cyfrwng cymysg
a’r gwaith ffigurol cynharach hyn, mae cwsg a breuddwydion
yn dal yn ffynhonnell sy’n fy ysbrydoli. Mae fy ngwaith newydd
yn ymwneud yn bennaf ag amlygu’r tensiynau sy’n cael
eu creu drwy gyfosod cyflyrau, megis syniadau am galed a meddal,
y tu mewn a’r tu allan, ymlyniad a didoliad, breuddwyd ac
ymwybyddiaeth. Mae defnyddio’r glustog a’r berthynas
sydd rhyngom ē hi yn drosiad am sawl agwedd o’n bywydau.
Dylanwadwyd ar y gwaith hefyd gan f’arsylwadau o’r
hindreulio a’r dadfeilio
Angharad Taris 2006
Hefyd
yn arddangos yn Oriel Mwldan Uchaf - Peter Rossiter - Gweithiau Diweddar
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|