oriel mwldan gallery Cardigan West Wales Arts Venue
oriel mwldan


New Haward Logo
Andy Goldsworthy Icicle Stack

Dyddgwener 22 Medi – Dyddgwener 20 Hydref 2007
Arddangosfa Deithiol Oriel Hayward

Andy Goldsworthy: Gweithiau Cynnar o Gasgliad Cyngor y Celfyddydau
'Arddangosfa Deithiol Hayward o Ganolfan y Southbank, Llundain ar ran Cyngor Celfyddydau Lloegr’

New Haward Logo

Mae Andy Goldsworthy yn creu cerfluniau yn y dirwedd, gan ddefnyddio natur fel deunydd crai a thestun ei waith.  Mae'r arddangosfa Genedlaethol Ar Daith hon o Oriel Hayward yn dwyn ynghyd gyfres o 15 o ffotograffau lliw o'r gweithiau hyn gafodd eu creu rhwng 1977 ac 1979.  Daw'r lluniau o Gasgliad Cyngor y Celfyddydau a bydd yr arddangosfa yn ymweld ag Aberteifi ym mis Medi fel rhan o daith estynedig ar draws y DU.

Mae Goldsworthy yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau, o gerrig a brigau i eira a phibonwy, i greu gwaith sy'n cynnig i'r gwyliwr brofiad dwysach o egni a phatrymau'r byd naturiol.  Ffotograffau yn aml yw'r unig gyfrwng sy'n cynnig tystiolaeth barhaol o ymdrech yr arlunydd i ailwampio natur, gan ddal "yr eiliad optimwm, yr eiliad 
honno pan oeddwn nid yn unig wedi creu'r darn, ond hefyd wedi deall y darn".  Mae un o'r ffotograffau yn yr arddangosfa yn darlunio pelen eira ddu wedi'i gorchuddio ē phridd sy'n cyferbynnu'n llwyr ē gwynder yr eira o'i hamgylch. Mewn llun arall ceir trefniant cwbl ddamweiniol yr olwg o wellt ar y llawr.

Bu Goldsworthy'n gweithio ym maes ffotograffiaeth ers canol yr 1970au, ond wrth ennill Prif Wobr Celfyddydau'r Gogledd Orllewin ym 1979, fe'i galluogwyd am y tro cyntaf i gael ffotograffau proffesiynol wedi'u tynnu ar gyfer creu arddangosfa. Canlyniad hyn oedd y gyfres hon o 15 o ffotograffau lliw a ddewiswyd ac a brynwyd ar gyfer Casgliad Cyngor y Celfyddydau i'w cynnwys yn yr arddangosfa grwp o gerflunwaith a ffotograffau, Natur fel Defnydd, a fu ar daith drwy'r DU ym 1980.

Ganwyd Goldsworthy yn Swydd Gaer ym 1956, ac fe'i magwyd yn Swydd Efrog lle'r aeth ati i greu ei gerfluniau awyr agored cyntaf. Bellach mae'n byw ac yn gweithio yn Swydd Dumfries, yn yr Alban. Teithiodd yn helaeth drwy Brydain, a thrwy gyfandir Ewrop, America, Siapan, Awstralia a Phegwn y Gogledd, gan adael i'r tirweddau amrywiol gyfarwyddo ei waith.  Mewn gwaith diweddar, defnyddiodd Goldsworthy sialc, defnydd naturiol o Rostiroedd y De (South Downs). Mae'r Moonlit Path (2002) yn ymlwybro rhwng y coed ym Mharc Petworth yn Sussex.  Gyda'r nos, pan fydd ansawdd adlewyrchol y sialc yn cael ei oleuo gan y lleuad , dyna'r amser gorau i weld y llwybr.

Er ni fydd amser gwylio preifat, gadewch eich sylwadau yn llyfr ymwelwyr yr Oriel gan ein bod yn gwerthfawrogi atborth ein cwsmeriaid. Os ydych yn rhan o grwp sy'n bwriadau ymweld ē'r arddangosfa, cysylltwch os gwelwch yn dda ē'r Swyddfa Docynnau ar 01239 621 200 i drefnu amser sy'n addas ac i sicrhau ni fydd yno ormod o ymwelwyr eraill.

Di Dal, Ffon: 01239 621 200
Amser Agoriau: Dydd Llun ą Dydd Sul 10yb ą 8yh
Ymholiadau cyhoeddus am arddangosfeydd Hayward Ar Daith: 020 7921 0837

Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul

Arddangosfeydd y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd Presennol | Polisi y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus

Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau


Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones

|
|
|
|
gwybodaeth
|
|
|