TRI ARTISTS
SUSAN JOHN, CYNTH WEYMAN, DARREN YEADON
Dydd Llun 5 Rhagfyr 2005 - Ddyd
Mercher 4 Ionawr 2006
Susan John
Datganiad Personol
Gan fy mod erioed wedi bod yn un am luniadu a phaentio, penderfynais
ledu fy ngorwelion drwy ddechrau ymwneud â gwydr lliw o dan
arweiniad arbenigwraig o’r enw Kate Derbyshire yng Nghanolfan
Gelfyddydau Neuadd Llanofer, Caerdydd. Cyn pen dim wedi hynny, dyma
fi’n darganfod y byd rhyfeddol a gwyllt hwnnw o gyfuno gwydr
a theils. Fy ngobaith yw bod fy lluniau yn siarad drostynt eu hunain.
Cynth Weyman
Cyfres Metamorffosis
Mae siapau’r corff yn cael eu cyfuno gyda ffurfiau naturiol
i greu ieithwedd symbolaidd, bersonol ac i ffurfio gweithiau celf
ar raddfa fawr fydd yn destun trafod ar ben grisiau, staerau, uwchben
soffa neu silff ben tân.
Ar y dechrau, drwy ddefnyddio siapau syml, e.e. hadau mân
a ffyngau, llwyddais i ddatblygu techneg weol yn seiliedig ar intaglio
strata gan ddefnyddio’r un dull ag wrth ysgythru, h.y. gweithio
o’r cefn i’r blaen. Roedd paentiadau dyfrlliw yn creu’r
wybodaeth angenrheidiol er mwyn llunio patrwm ac i gyfrif nifer
yr haenau o ffabrig a’r lliwiau oedd eu hangen. Hefyd, roedd
yn fodd i ganfod y mannau roedd angen tynnu sylw atynt drwy ddefnyddio
edau frodio, mwclis a hadau.
Mae gweithio gyda ffabrigau ac edau yn fy ngalluogi i archwilio
fy lluniadau er mwyn gallu cyflwyno dimensiwn arall. Yn aml iawn,
byddaf yn gweithio ar thema, gan archwilio’r thema honno drwy
nifer o gyfryngau a thestunau perthynol ac yn y pen draw byddaf
yn creu sawl darn o waith. Lliw a delweddau symbolaidd sy’n
creu’r awyrgylch neu’r naws yn y lluniau terfynol. Mae
gweadau’n cynnig dimensiynau ychwanegol ac yn dod â’r
delweddau o 2D i 3D. Mae yna hefyd ryw ddyfnder ffocws yn y gweithiau
gorffenedig. Yn ddi-os, dylanwadwyd ar y dechneg gerfwedd weol hon
gan fy mhrofiadau ym maes ffotograffiaeth ac ysgythriadau. Weithiau,
byddaf yn cynnwys ffotograffau chwyddedig i greu rhith optegol.
Caiff pob siâp, lliw a chyfrwng ei archwilio i’r eithaf
posibl.
Mae’r themâu yn cynnwys delweddau o fyd botaneg, ffwngi,
erydiad, bod yn fenyw ac yn artist dwyieithog a phrofiadau o fywyd
personol sy’n berthnasol i brofiadau personol nifer o wylwyr
– cydberthynas, profedigaeth, symud ymlaen ac effaith ein
hamgylchoedd. Mae gennyf oes gyfan o brofiadau amrywiol i’m
hysbrydoli a byddaf yn croesawu her fel modd i ymestyn fy nychymyg
a’m cyfrwng. Mae’r gweithiau gweol sydd i’w gweld
yn yr arddangosfa hon yn nodweddiadol o’r darnau y gellir
eu comisiynu fel gweithiau trafod fydd yn cyfleu straeon personol
y prynwyr. www.cynthweyman-artist.co.uk
Darren Yeadon
Wyddoch chi ddim, wir, mor anodd mae
hi!
Mae cerflun yn wrthrych gaiff ei lunio er mwyn iddo fod yn rhywbeth
pleserus a phryfoclyd i’r llygad, neu’n ysgogi’r
synnwyr cyffwrdd. Mae’r lleoedd gwag negyddol sy’n cael
eu creu oddi mewn ac o gwmpas y darn yr un mor bwysig.
Rwy’n gredwr cryf mai’r hyn a welwch yw’r hyn
a gewch. Mae gonestrwydd a chyfanrwydd yn perthyn i’r gwaith
o lusgo darn trwm o graig, hacio wrtho gyda gordd, cyn a gaing.
Ar ôl llafur ac amser, caiff ei drawsffurfio, gydag offer
a thechnegau cain, yn ddarn gorffenedig o gelfyddyd.
Treuliais gyfnod fel prentis mewn chwarel yng Ngogledd Swydd Efrog
yn hytrach nag mewn ysgol gelf gan weithio fel saer maen yn ystod
cyfnodau cynnar fy ngyrfa, yn dysgu sut i chwarela, torri a thrin
cerrig. Yn dilyn damwain car ddifrifol pan oeddwn yn fy ugeiniau,
llwyddais i osod trefn ar fy mywyd a phenderfynais ddefnyddio carreg
fel cyfrwng creadigol.
Gallu rhyfeddol natur yw sylfaen fy nychymyg. Rhoi rhywbeth nôl
i fywyd yw’r hyn sy’n fy sbarduno.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio yn
Carrara ar yr union graig a ddefnyddiwyd gan Michaelangelo. Mae
gweithio ar farmor yn waith caled a chostus o ran amser. Yn sydyn,
bu’n rhaid i fi addasu fy sgiliau traddodiadol ac o dipyn
i beth rwyf wedi dysgu ambell un newydd. Dechreuais archwilio posibiliadau’r
cyfrwng, gan ddatblygu troeon newydd yn fy arddull.
Mae bywyd artist yn cael ei adlewyrchu yn ei waith ef/ei gwaith
hi. Mewn ffordd, mae’r arddangosfa hon o rai o’m cerfluniau
yn adlewyrchiad o’m bywyd personol i – lleoedd gwag
cadarnhaol a negyddol, dyddiau da a dyddiau gwael. Rwy’n gobeithio
y byddwch yn eu hoffi.
Gwahoddiad i Artistiaid
Lluniau sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer ‘Llinellau
a Haenau’
Amserau Agor yr Oriel
10yb - 8yh Dydd Llun - Dydd Sul
Arddangosfeydd
y Gorffennol a'r Dyfodol | Arddangosfeydd
Presennol | Polisi
y Celfyddydau Gweledol | Gyfarwyddiadaus
Am mwy o wybodaeth, gofynnwych yn y swyddfa docynau
Oriel Mwldan Patron Mary Lloyd Jones
|