Back

Brassed Off

Drama am yr anawsterau sy’n wynebu band pres pwll glo, yn dilyn cau eu pwll yn Grimley, Swydd Efrog ym 1996 gyda thrac sain byw wedi ei ddarparu gan y clodfawr Band Pres Wdig. Mae cast dawnus yn ymuno â’r band pres ar gyfer y fersiwn llwyfan o’r ffilm o 1996. Mae’r stori yn eich tywys drwy amrywiaeth o emosiynau wrth i ni ddilyn eu hymdrechion, o gypyrddau gwag a beilïau wrth y drws i arweinydd y Band, Danny, yn cuddio’r ffaith ei fod wedi bod yn peswch gwaed.

Mae’r ddrama’n delio â’r cynnydd anferthol mewn hunanladdiad a ddaeth yn sgil diwedd y diwydiant glo ym Mhrydain, a’r frwydr i barhau i fod yn obeithiol yn yr amgylchiadau anodd hynny. Cydweithrediad cyffrous a chreadigol rhwng Cymdeithas Gerdd Abergwaun a Band Pres Wdig.

£10 (£8)

Yn addas i oedran 12+
Nodwch os gwelwch yn dda: Cynhelir Ffair Flynyddol Aberteifi ar ddydd Sadwrn 10fed o Dachwedd. Bydd gwyriadau mewn lle a bydd parcio yn gyfyngedig. Cynghorwn gwsmeriaid i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu siwrnai.

Browse more shows tagged with:

Top