Back

Andre Rieu Maastricht Concert 2018

AR WERTH GWE 23 CHWEF

Amore - My Tribute To Love

Yn adnabyddus i filiynau fel “Brenin y Waltz”, mae André Rieu yn un o artistiaid cerddorol mwyaf poblogaidd y byd. Mae ei gyngerdd blynyddol ym Maastricht yn creu tipyn o gyffro ym myd digwyddiadau sinema, a’r llynedd gosododd recordiau newydd yn swyddfa docynnau nifer o wledydd.

Wedi ei osod yn erbyn cefndir ysblennydd sgwâr y dref ym Maastricht ei gartref enedigol yn yr Iseldiroedd, mae’r cyngerdd yn cynnwys y maestro yn ei ogoniant, ynghyd â’i gerddorfa enwog 60 darn sef Cerddorfa Johann Strauss, sopranos, tenoriaid a gwesteion arbennig iawn. Mae André’n cyflwyno profiad cerddorol bythgofiadwy sy’n llawn hiwmor, hwyl ac emosiwn i bob oed.

Mae’r cyflwyniad hwn o Gyngerdd Maastricht yn Sinemâu André Rieu yn 2018 yn cynnwys Charlotte Hawkins sy’n cynnal cyfweliad ag André Rieu yr eiliad y daw oddi ar y llwyfan, yn arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd sinema. Yr haf hwn bydd y cyfan yn troi o gwmpas cariad! Mae ‘Amore, my tribute to love’ yn deyrnged André i gariad - cariad tuag at gerddoriaeth, a thuag at ei ddau deulu; yr un bach, ei wraig a’i blant - a’r un mawr, Cerddorfa Johann Strauss.

Cymrwch sedd flaen a phrofwch y digwyddiad cerddorol ysblennydd hwn ar y sgrin fawr. Mwynhewch fynediad y tu ôl i’r llwyfan, cyfweliadau gydag André a’i westeion arbennig, ffefrynnau cerddorol a llawer, llawer mwy, yn ecsgliwsif i’r sinema.

£16 (£15)
2 hours, 45 minutes approx (including interval)

Browse more shows tagged with:

Top