Back

Tcha Limberger Trio

Meistrolaeth gitâr, clasuron Reinhardt wedi cymysgu gyda repertoire Sipsi Ewropeaidd traddodiadol. Heb os nag oni bai y cerddor Sipsi mwyaf hoffus ar y blaned, mae’r seren feiolin Tcha Limberger yn ymuno â’r dewin gitâr, Mozes Rosenberg. 

Mae Limberger, sy’n aml-offerynnwr rhyfeddol ei ddawn, yr un mor adnabyddus am ei berfformiadau gyda Cherddorfa Sipsi Budapest a Thriawd Kalotaszeg ag y mae am fod yn feiolynydd jazz Sipsi gorau’r byd, grym anorchfygol ym maes cerddoriaeth byd, gwerin a jazz.

£15 (£14)
Bydd bwyty dros dro Y Goeden Bobl yn cynnig bwydlen osod o fwyd Indiaidd cyfoes cyn y sioe o 6yh

Top