Back

Catrin Finch & Seckou Keita w/support Gwyneth Glyn @ Y Tabernacl, Machynlleth

(Cymru / Senegal) ynhyrchiad Theatr Mwldan

Gyda chefnogaeth oddi wrth Gwyneth Glyn

Mae’r cydweithrediad aruthrol hwn, sy’n fawr ei glod gan y beirniaid, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri, rhwng dau berfformiwr penigamp - y delynores Gymreig Catrin Finch a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita - yn darparu arddangosfa syfrdanol o gerddoriaeth o’r radd flaenaf.

Gan dynnu’n ddwfn ar eu traddodiadau amrywiol eu hunain a’u trawsffurfio gyda synergedd hynod, mae Catrin a Seckou wedi adeiladu enw da heb ei ail am eu perfformiadau rhyfeddol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, bydd eu hail albwm SOAR, y bu aros mawr amdano, yn lansio ym mis Ebrill 2018. Mae’r albwm yn troi o gwmpas adenydd y gwalch, yr aderyn ysglyfaethus godidog a ddychwelwyd i Gymru’n ddiweddar yn dilyn absenoldeb o ganrifoedd, sy’n gwneud ei daith flynyddol o 3,000 milltir o arfordiroedd Gorllewin Affrica i aberoedd Cymru, gan hedfan dros rwystrau o waith Dyn, yn yr un modd a bydd cerddoriaeth a breuddwydion yn gwneud, mewn siwrnai gynhenid ac epig o wytnwch. 

Yn gyfareddol, yn fesmereiddiol, yn gywrain ac yn etheraidd, dyma i chi gerddoriaeth nodedig a phrofiad byw gwefreiddiol.

£17 (£15)
This, I suspect, will be remembered as one of the classic concerts of the year
Robin Denselow, The Guardian

Top