Back

Hazel O’Connor: See You Again Tour

Dim Cefnogaeth.

Noson arbennig iawn yng nghwmni’r gantores-ysgrifennwr caneuon clodfawr Hazel O’Connor, yn perfformio yma fel rhan o bartneriaeth acwstig syfrdanol gyda Cormac De Barra ar y Delyn Wyddelig, ei phartner cerddorol am tua 15 mlynedd. Mae’r cyfuniad o delyn De Barra a llais bythgofiadwy Hazel yn hudol, gan asio geiriau ystyrlon Hazel gyda dawn gerddorol Cormac mewn priodas gerddorol nerthol. Gyda’i gilydd byddant yn cyrraedd dyfnderau’ch enaid.

 Mae Cormac De Barra wedi teithio’r byd yn eang ac mae’n perfformio hefyd gyda Moya Brennan, llais Clannad. Yn cyd-fynd â rhyddhau ‘See You Again’ yn 2017, disgwyliwch gymysgedd gwych o’r hen a’r newydd gan gynnwys caneuon newydd penigamp yn dathlu 37 mlynedd o berfformio. Nid oes yr un sioe gan O’Connor yn gyflawn heb ei chlasuron gwreiddiol Will You, D-Days, Eighth Day, Big Brother, If Only a mwy, ac mae’r cyfan yn teimlo’n fwyfwy addas yn y byd sydd ohoni. Noson foethus gyda rai o ganeuon mwyaf yr 20fed ganrif wedi eu cyflwyno gydag angerdd â thân. Cwrdd â Chyfarch i ddilyn y sioe. Peidiwch â’i cholli!

 

£16 (£15)
Bydd bwyty dros dro Y Goeden Bobl yn cynnig bwydlen osod o fwyd Indiaidd cyfoes cyn y sioe o 6yh

Browse more shows tagged with:

Top