Back

The Other Side Of Hope (12A)

Aki Kaurismäki | Finland | 2017 | 98’

 Mae ffilmiau’r cyfarwyddwr Ffinnaidd Aki Kaurismäki gyda’u digrifwch cynnil wedi bod yn bleser ers tro. Mae’r hanes cydymdeimladol a hyfryd hwn am ffoadur o Syria sy’n teithio’n gudd i’r Ffindir yn amlygu’r hiwmor tywyll sydd wedi gwneud Kaurismäki’n enwog, tra’n gwrthod gwingo rhag torcalon a chaledi. Mae’n gomedi ddyngar, gyda naws o hurtrwydd anfydol nad yw’n tanseilio ei difrifoldeb mewn unrhyw ffordd, yn wir, mae’n ei gofleidio gydag esmwythder a symlrwydd gwyrthiol.

£7.30 (£5.50)

Top