The Odyssey 2016 (PG)

Jerome Salle | France | 2016 | 122’

Ffilm sy’n siartio anturiaethau dyfrol Jacques-Yves Cousteau dros ddeg mlynedd ar hugain. Yn ystod y cyfnod hwnnw trodd ei ffilmiau arloesol (gan gynnwys The Undersea World of Jacques Cousteau) lygaid y byd tuag at y rhyfeddodau sy’n llechu o dan arwyneb y môr. Yn ddyfeisiwr uchelgeisiol gwrol (helpodd ddyfeisio’r tanc anadlu), yn wneuthurwr ffilm ac yn gadwraethwr, nid oedd Cousteau heb ei wendidau, a phortreada’r ffilm wahanol ochrau ei bersonoliaeth gymhleth. Ei etifeddiaeth barhaol oedd ei frwydr dros yr amgylchedd.  

£7.30 (£5.50)

Browse more shows tagged with: